Gwrthod fisas cystadleuwyr Eisteddfod Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae peryg na fydd nifer o gystadleuwyr o sawl gwlad ddim yn gallu cystadlu yn Eisteddfod Llangollen eleni am fod eu fisas wedi eu gwrthod.
Mae'r trefnwyr wedi dweud wrth raglen Taro'r Post ar Radio Cymru fod fisas rhai o India, Rwsia, Nepal, Morocco, Ghana ac Algeria wedi eu gwrthod a bod hyn yn ergyd fawr i'r wŷl.
Mae nifer ohonynt wedi bod yn cystadlu yn yr eisteddfod ers blynyddoedd.
Nid dyma'r tro cyntaf i sefyllfa fel hyn godi.
Y llynedd doedd dim cynrychiolaeth o Dwrci yn yr eisteddfod na ryw hanner o gystadleuwyr o India.
Ond yn ol yr wŷl mae'r broblem yn waeth eleni na mae hi erioed wedi bod o'r blaen.
Mae'r trefnwyr yn gobeithio trafod y mater gydag Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS pan fydd yn ymweld â'r eisteddfod wythnos nesaf.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref am sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013