Lluniau: Gorymdaith y cenhedloedd yn Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Gorymdaith Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae gorymdaith cenhedloedd y byd yn rhan o ddiwrnod agoriadol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r orymdaith yn mynd o Faes yr Eisteddfod i ganol tref Llangollen.

Disgrifiad o’r llun,

Wedi glaw trwm yn gynharach yn y diwrnod daeth yr haul allan ar gyfer yr orymdaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae grwpiau o wledydd dros y byd yn cael eu cynrychioli.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r orymdaith yn digwydd ar ddiwedd Diwrnod Rhyngwladol y Plant lle mae ysgolion cynradd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

O ddydd Mercher ymlaen mae cystadlaethau cerddoriaeth a dawns rhyngwladol i blant ac oedolion yn dechrau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna hefyd nifer o gyngherddau'n cael eu cynnal gyda'r nos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefnwyr yn gobeithio denu hyd at 40,000 i'r ŵyl yn sir Ddinbych.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ŵyl wedi ei chynnal yn Llangollen bob blwyddyn ers 1947.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r orymdaith yn gorffen wrth i'r cystadleuwyr ddychwelyd i'r Maes.