Dim cytgord yng nghôr Eisteddfod Caerfyrddin 2014?
- Cyhoeddwyd
Mae cantorion wedi beirniadu'r Eisteddfod am y diffyg aelodau o du allan i Lanelli yng nghôr Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 2014.
Yn ôl cwyn gwrandawr di-enw ar raglen Taro'r Post, mae hi'n "gywilyddus" bod popeth wedi'i ganoli yn Llanelli, er mai Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yw hi.
Aeth y gwrandawr ymlaen i ddweud nad oedd yn aelod o'r côr oherwydd fod yr ymarferion yn rhy bell o'i gartref ac mai "Llanelli yn unig fydd yn elwa o'r Eisteddfod".
Un côr, mewn un lleoliad
Ymatebodd Dr Hywel Glyn Lewis, Is-gadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Sir Gaerfyrddin, drwy ddweud ei fod o'n cytuno bod na ryw wirionedd yn y gŵyn a bod sawl un yn dweud bod Llanelli yn cael fwy o sylw na Chaerfyrddin.
Dywedodd Dr Lewis bod trafodaeth wedi bod cyn llunio'r pwyllgor gwaith ynglŷn â'r ffordd orau o drefnu'r ymarferion er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ddaearyddol o bob rhan o'r Sir.
Trafodwyd y syniad o greu pum côr rhanbarthol, cyn eu huno i greu un côr yn yr ymarferion olaf, ond pan ddaeth hi i'r pwyllgor gwaith, penderfynwyd mai "un côr ddylai fod, mewn un lleoliad".
Cynrychioli'r ardal gyfan
Yn ôl Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, mae digwyddiadau paratoadol yr Eisteddfod wedi eu cynnal mewn sawl rhan o'r Sir, gan gynrychioli'r ardal gyfan, yn hytrach na Llanelli yn unig.
"Roedd y cyhoeddi yng Nghaerfyrddin, cymanfa'r cyhoeddi yn Rhydaman ac mae Is-gadeiryddion y pwyllgorau gwaith yn cynrychioli'r holl sir."
Er hyn, cyfaddefodd Elen Elis ei bod hi'n rhannol gytuno â'r feirniadaeth: "dwi'n derbyn bod na ffordd wahanol o wneud pethau."
Ond dywedodd Meryl Evans o'r Tymbl, sy'n aelod o gôr yr Eisteddfod: "Mae hi'n ffwlbri dweud mai dim ond pobl Llanelli sy'n mynd i elwa.
"Yn ein côr ni mae pobl o Gaerfyrddin, Crymych, Pen y Bont, Rhydaman, Llanon, Y Tymbl, Cross Hands a Llandeilo.
"Mae'r côr yn dod o bob man."
Cymorth gan gantorion eraill
Ond roedd barn Dai Dyer o Lanymddyfri, sy'n aelod o bedwar gwahanol gôr, ond nid côr yr Eisteddfod, yn gwbl wahanol.
Yn ôl Mr Dyer, o holl aelodau'r corau mae'n rhan ohonyn nhw, dim ond dau aelod o un côr sydd wedi ymuno â chôr yr Eisteddfod.
Dywedodd: "Byddai taith i'r ymarferion yn Llanelli yn daith o awr a hanner neu ddwy awr i bobl o'r pen yma o'r Sir a byddai'n bellach fyth i bobl o Gastell Newydd Emlyn."
Aeth ymlaen i ddweud, pe bai'r Eisteddfod wedi trefnu ymarferion mewn sawl lleoliad "ni fyddan nhw yn y sefyllfa bresennol o orfod gofyn i gantorion eraill ddod mewn i helpu'r côr."
Sicrhau'r sefyllfa orau
Ymatebodd Elen Elis drwy ddweud bod cael aelodau proffesiynol, sy'n derbyn tâl am ganu yn y côr, yn fodd o roi "hyder i bawb a sicrhau bod pawb yn mwynhau'r profiad".
Ond yn ôl Mr Dyer: "mae adnoddau lleisiol gwych o fewn y sir sydd ddim ar hyn o bryd yn rhan o'r côr.
"Byddan nhw ddim wedi gorfod mynd at y bumpers, petai'r lleisiau hyn wedi ei ffeindio hi'n rhwydd i fynd i ymarferion y côr."
Dywedodd Elen Elis ei bod hi'n "derbyn hyn" a'i bod hi'n ceisio sicrhau y "sefyllfa orau bosibl".