Ymgyrch i achub cangen banc HSBC ym Mhenygroes
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o bobl Dyffryn Nantlle wedi ymuno yn yr ymgyrch i ail-agor cangen banc HSBC ym Mhenygroes, Gwynedd.
Mae deiseb wedi ei llofnodi gan 679 o bobl, 52 o'r rhain yn fusnesau lleol, er mwyn ceisio perswadio'r banc i ail-ystyried eu penderfyniad i gau eu cangen yn y pentref.
"Rydym yn galw ar fanc HSBC i gadw'r gangen ym Mhenygroes ar agor," meddai'r Cynghorydd Dyfed Edwards, sy'n arwain yr ymgyrch.
"Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at ein pryderon yn lleol ynglŷn â phenderfyniad y banc i gau'r gangen. Mae 679 o drigolion a 52 o fusnesau wedi llofnodi'r ddeiseb sy'n dangos cryfder teimlad y gymuned leol."
Daeth y cyhoeddiad yn sioc i'r ardal, yn enwedig gan fod HSBC wedi gwneud cyhoeddiad cadarnhaol ynglŷn â dyfodol canghennau fel Penygroes yn dilyn ailstrwythuro mawr ym mis Ebrill 2012.
'Asesu'r sefyllfa'
Pan ofynnodd Cymru Fyw wrth HSBC i ymateb i'r penderfyniad, dywedodd llefarydd eu bod wedi asesu'r sefyllfa yn ofalus ym Mhenygroes, ond gan fod y defnydd o'r gangen wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf roedd yn rhaid gwneud y penderfyniad i gau.
Mae'r ddeiseb wedi ei hanfon i Gaerdydd at Gyfarwyddwr Rhanbarthol HSBC.
Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod angen dirfawr am wasanaethau banc ar y pentref gwledig sy'n gwasanaethu, nid yn unig pobl leol, ond cwsmeriaid busnes sydd angen cyfleusterau bancio yn rheolaidd.
Eglurodd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Os na allwn ni gael banc ar agor drwy'r wythnos, dwi wedi gwneud achos i gadw'r gangen ar agor am oriau penodol; hyd yn oed os am un bore ac un prynhawn yr wythnos er mwyn sicrhau nad yw busnesau lleol yn dioddef yn yr ardal wledig hon."
Colled fawr i'r ardal
Dywedodd Llŷr Williams, fferyllydd lleol wrth Cymru Fyw: "Bydd y golled i'w theimlo ar hyd a lled yr ardal, gan mai dyma'r unig fanc rhwng trefi Caernarfon a Phorthmadog.
"Roedd pobl o gymunedau tu allan i Benygroes yn dod i'r pentref i fancio, roedd hyn yn golygu eu bod yn fwy tebygol o wario eu harian yn y siopau lleol" meddai.
"Bydd hefyd yn achosi anghyfleustra mawr i berchnogion busnes yn Nyffryn Nantlle, gan fod bellach angen teithio i Gaernarfon sy'n tynnu rhywun o'i waith am tua 2 awr yr wythnos i fancio, lle oedd rywun yn arfer gallu tario i mewn i'r banc ryw dro yn ystod yr wythnos pan oedd yn gyfleus."
Dim ond un adeilad arall i ychwanegu at restr o adeiladau gwag sydd i'w canfod ar Heol y Dŵr ym Mhenygroes yw'r banc bellach. Mae mudiad 'Dyffryn Nantlle 2020' wedi bod yn ymgyrchu i adfer rhai o'r adeiladau gwag yn y pentref er mwyn adfywio bwrlwm a chynyddu balchder pobl yn eu hardal.
Mae'r mudiad eisoes wedi cyfarfod yn gyhoeddus nos Iau er mwyn casglu syniadau ar beth yw dymuniadau pobl ar gyfer yr adeiladau gwag.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ap Iago wrth BBC Cymru Fyw fod sefydlu menter gyd-weithredol megis siop goffi neu ganolfan ieuenctid yn un opsiwn.
Cwmni menter Antur Nantlle sydd yn berchen ar nifer o adeiladau'r pentref gan gynnwys hen adeilad yr HSBC.
Mae Craig ab Iago hefyd yn un o gyfarwyddwyr y cwmni, ac ychwanegodd fod y bwrdd yn cyfarfod nos Iau, 24 Gorffennaf ac y byddant yn trafod dyfodol adeilad y banc yn y pwyllgor hwnw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2013