Sut i gyrraedd y Maes

  • Cyhoeddwyd
Map ardal Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014

Dyma fap o ardal yr Eisteddfod yn Sir Gâr eleni yn dangos lleoliadau pwysig yr ŵyl gyda gwybodaeth isod am sut i gyrraedd y Maes.

Sut i gyrraedd y Maes

Does dim meysydd parcio yn agos at faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd gwasanaeth bws gwennol ar gael trwy gydol yr wythnos a meysydd parcio dros dro yn cael eu lleoli i'r Dwyrain a'r Gorllewin o Lanelli. Bydd y meysydd parcio yn cael eu nodi'n glir gydag arwyddion melyn ar bob prif gyffordd.

Gall pobl hefyd deithio i'r Maes mewn nifer o ffyrdd eraill, gan gynnwys ar drên, bws, beic, ar droed neu dacsi.

Mae'r Maes Carafanau wedi'i leoli ar dir Castell y Strade sydd gyferbyn â Maes yr Eisteddfod. Unwaith eto, dilynwch yr arwyddion cyfeiriad melyn.

Parcio a theithio

  • O Ogledd neu Orllewin Cymru drwy Gaerfyrddin, dilynwch yr A484 i'r de o Gaerfyrddin tuag at Llanelli. Ar y gylchfan ar ôl Porth Tywyn, dilynwch yr arwyddion melyn i barcio ym Mhorth Tywyn.

  • O'r Gogledd drwy Crosshands A476 , Pont-iets B4309 neu Bontarddulais A4138, dilynwch yr arwyddion melyn pan fyddwch yn cyrraedd Llanelli.

  • O'r Dwyrain ar hyd yr M4 , gadewch ar Gyffordd 47 a chymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan tuag at Abertawe. Ar y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail allanfa A484 i Lanelli. Dilynwch yr arwyddion i Lanelli ac yna'r arwyddion melyn i'r meysydd parcio.

Mae parcio a'r bws wennol i'r Maes yn rhad ac am ddim. Gallai'r daith o'r Meysydd Parcio i Ganolfan yr Ymwelwyr gymryd hyd at hanner awr felly cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer y rhan yma o'ch taith.

Ymwelwyr anabl

Bydd lleoedd parcio i bobl anabl (bathodyn glas) ar gael ym Mharc y Scarlets gyda bysiau priodol yn rhedeg yn rheolaidd i'r maes.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Bydd bws gwennol rhad ac am ddim yn rhedeg bob 20 munud o orsafoedd trenau a bysiau Llanelli i'r Maes. Bydd yn dadlwytho a chodi yn y Ganolfan Ymwelwyr. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol., dolen allanol

Mae mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus hefyd ar wefan Cyngor Sir Gâr, dolen allanol.

Beic

Bydd llefydd i barcio beiciau ar gael tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr. Gallwch gyrraedd y Maes o Lwybr Arfordirol y Mileniwm.