Cardiau Post y Somme
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd llywodraeth Prydain ryfel yn erbyn yr Almaen ar Awst 4, 1914. Cyrhaeddodd y milwyr Prydeinig cyntaf yn Ffrainc dridiau yn ddiweddarach.

David Lloyd George, y Canghellor ar y pryd, oedd bennaf gyfrifol am ffurfio'r 'Fyddin Gymreig', sef y 38th Welsh Division a ddechreuodd gyrraedd Ffrainc ym mis Tachwedd 1915.

Yn ystod y Rhyfel Mawr, cyhoeddodd y Daily Mail gannoedd o gardiau post lliw o luniau o'r brwydro, yn y Somme yn bennaf, er mwyn codi ysbryd pobl nôl adre.

Brwydrau'r Somme oedd un o frwydrau trymaf y Cymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r fwyaf gwaedlyd oedd yr ymosodiad ar goed Mametz, lle collodd y 38th Welsh Division 4,000 o filwyr, naill ai drwy gael eu lladd neu eu hanafu.

Rhyfel y ffosydd oedd y Rhyfel Byd Cyntaf a'r milwyr yn ceisio ennill tir ar y ddaear ar hyd y ffrynt gorllewinol oedd yn estyn tua 440 o filltiroedd o'r Swistir i Fôr y Gogledd.

Roedd y Ffrynt Gorllewinol yn cynnwys ffosydd a ffensys weiren bigog. Symudodd hi bron ddim yn ystod pedair blynedd y rhyfel.

Mae'r rhan fwyaf o luniau'r Daily Mail wedi eu tynnu gan Ernest Brooks, ffotograffydd oedd cyn hynny wedi arfer tynnu lluniau 'society' y dosbarth uwch yn Llundain cyn cyrraedd y Somme ym mis Mai 1916.

Mae'r llun yma o ffrwydriad enfawr gan fyddin Prydain yn nhir yr Almaenwyr yn Beaumont Hamel yn enwog. Collodd nifer o filwyr Prydain eu bywydau yn y saethu a ddilynodd a llwyddodd yr Almaenwyr i gadw'u tir.

Er mai ffotograffau wedi eu lliwio o'r brwydro go iawn yw rhai Brooks, mae'n bosib ei fod wedi 'gosod' rhai sefyllfaoedd er mwyn gwella'r llun.

Doedd aelodau'r Corfflu Meddygol - yr RAMC - ddim yn ymladd ond fe gollodd 6,873 o ddynion dros gyfnod y rhyfel. Casglwyd y cardiau post yma i gyd gan Gapten D. Llywelyn Williams, meddyg gyda'r RAMC yn y 38th Welsh Division, ac maen nhw'n cael eu hatgynhyrchu drwy garedigrwydd ei deulu.

Gwelodd llawer i filwr o Gymro y dinistr llwyr a achosodd y brwydro yn ninas Ypres yng Ngwlad Belg.

Y Brenin Siôr V ar un o'i ymweliadau niferus â'r Ffrynt. Roedd yn gefnder i Kaiser Wilhelm II o'r Almaen ac yn ystod y rhyfel fe newidiodd enw'r teulu brenhinol o'r enw Almaenig Saxe-Coburg-Gotha i Windsor er mwyn swnio'n fwy Seisnig.