Canllaw i brif seremonïau Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014

  • Cyhoeddwyd
Guto Dafydd a'r Archdderwydd Christine James
Disgrifiad o’r llun,

Guto Dafydd a'r Archdderwydd Christine James

Cynhelir seremonïau i anrhydeddu prif lenor a phrifeirdd yr Eisteddfod ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos y brifwyl.

Yr Archdderwydd sy'n arwain y prif seremonïau ac mae Gorsedd y Beirdd yn bresennol hefyd. Eleni yw ail flwyddyn yr Archdderwydd Christine wrth y llyw.

I lawer o Eisteddfodwyr, y prif seremonïau yw pinacl eu hwythnos gyda dyfalu mawr a fydd yna deilyngdod a phwy fydd yr enillydd. Mae hyn yn sicr yn wir ar ôl y siom na fu teilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair yn 2013 .

Isod mae canllaw i seremonïau'r wythnos a rhestr o enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.

Dydd Llun, Awst 4

13.00 - Seremoni Cyflwyno Medal Syr TH Parry-Williams er clod

Enillydd 2014: Alun Jones, Llanarmon, Pwllheli

16.30 - Seremoni Coroni'r Bardd

Tasg 2014: Dilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y thema Tyfu.

Beirniaid: Dylan Iorwerth, Marged Haycock, Dafydd Pritchard

Enillydd 2014: Guto Dafydd, Pwllheli

Dydd Mawrth, Awst 6

16.45 - Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen

Tasg 2014: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Beirniaid: Geraint Davies Jones, Caryl Lewis, Bethan Mair

Enillydd 2014: Lleucu Roberts, Caernarfon

Dydd Mercher, Awst 7

16.30 - Seremoni'r Priflenor Rhyddiaith

Tasg 2014: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema Gwrthdaro.

Beirniaid: Catrin Beard, Meg Elis, Manon Rhys

Enillydd 2014: Lleucu Roberts, Caernarfon

Nos Fercher, Awst 7

18.55 - Seremoni Tlws y Cerddor

Tasg 2014: Gwaith i ensemble llinynnol (3 ffidil, 3 ail ffidil, 2 fiola, 2 cello ac 1 bas dwbl). Un symudiad neu fwy heb fod yn hwy na 7 munud o hyd.

Beirniaid: Lyn Davies, Euron J. Walters

Enillydd 2014: Sioned Eleri Roberts, Bangor

Dydd Iau, Awst 8

10.30 - Cyflwyno Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn

Beirniaid: Aled Davies, Heather Jones, Siân Jones

Enillydd 2014: Joella Price, Caerdydd

10.35 - Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg Er Anrhydedd

I gydnabod ac anrhydeddu cyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth.

Enillydd 2014: Goronwy Wynne, Licswm

17.00 - Seremoni'r Fedal Ddrama

Tasg 2014: Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Beirniaid: Sarah Lloyd, Roger Williams

Enillydd 2014: Dewi Wyn Williams, Caerdydd

Dydd Gwener, Awst 9

16.30 - Seremoni Cadeirio'r Bardd

Tasg 2014: Awdl ar fwy nag un o'r mesurau caeth heb fod dros 250 llinell ar y thema Lloches.

Beirniaid: Llion Jones, Alan Llwyd, Idris Reynolds

Enillydd 2014: Ceri Wyn Jones, Aberteifi