M4: Adeiladu ffordd newydd £1 biliwn
- Cyhoeddwyd

Mae ciwiau hir i'w gweld yn aml ar yr M4 ger Casnewydd
Mi fydd ffordd newydd gwerth £1 biliwn o gwmpas Casnewydd yn cael ei hadeiladu, yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart.
Y bwriad yw i'r ffordd fynd rhwng cyffordd 23 a 29 gan leihau tagfeydd a rhoi hwb i'r economi.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys creu cysylltiad rhwng yr M4, yr M48 a'r B4245 a chreu man diogel i gerddwyr a seiclwyr.
Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu'r cynlluniau gydag iaith gref, ond mae'r Ceidwadwyr wedi croesawu'r penderfyniad.
'Camgymeriad drud'

Y 'brif ffordd' oedd yr opsiwn gafodd ei ddewis gan Ms Hart, sef yr un ddu yn y llun uchod
Yn siarad ar ran Plaid Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth bod y penderfyniad yn "gamgymeriad drud iawn".
Dywedodd y byddai'r ymrwymiad yn "effeithio ar ein gallu i fuddsoddi mewn prosiectau eraill am flynyddoedd i ddod", a bod angen datrysiad cyflymach gan fod y broblem yn "bodoli nawr".
Ychwanegodd bod gwneud y cyhoeddiad cyn i'r Pwyllgor Amgylchedd gyhoeddi ei adroddiad i'r mater, yn tanseilio gwaith y pwyllgor hwnnw.
Fe wnaeth Mick Antoniw o'r blaid Lafur ategu neges Mr ap Iorwerth, gan ddweud y gallai'r llywodraeth fod mewn perygl o wynebu her gyfreithiol yn y dyfodol.
Ychwanegodd: "[Gallai hyn] danseilio barn pobl o Lywodraeth Cymru yn llygaid y bobl a'r cyhoedd, mewn cysylltiad â defnyddio'r pwerau benthyg newydd."

Wnaeth Eluned Parrott ddim cuddio ei dirmyg ynglŷn â'r penderfyniad
Dywedodd Eluned Parrot o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi wedi "siomi" gyda'r llywodraeth oherwydd amseriad y cyhoeddiad, ac am ddewis "ateb o'r 70au ar gyfer yr anghenion isadeiledd sydd gan Gymru, nid yn unig nawr ond yn y dyfodol hefyd".
Ychwanegodd: "Dydw i ddim wedi cael syndod o weld y llywodraeth, wedi iddyn nhw dderbyn pwerau benthyg er budd holl bobl Cymru, yn ei wastraffu i gyd ar yr un pryd ar un prosiect ar gyfer de Cymru."
Fe wnaeth y Ceidwadwyr godi cwestiynau ynglŷn â pham bod cyhoeddiad mor arwyddocaol wedi cael ei "ychwanegu'n slei" i'r amserlen ar ddiwrnod olaf tymor y Cynulliad.
Ond fe ddywedodd Byron Davies: "Peidiwch â nghamddeall i - rwy'n croesawu'r penderfyniad, mae'n dagfa glir yn ein rhwydwaith drafnidiaeth a'n economi genedlaethol.
"Ac roedd y CBI yn llygaid eu lle ddoe pan ddywedon nhw wrthoch chi i fwrw ymlaen â pethau."
'Gwythïen economaidd'
Mae Cymdeithas y Cyflogwyr (CBI) wedi rhyddhau datganiad yn cefnogi'r penderfyniad.
Dywedodd eu cyfarwyddwr, Emma Watkins: "Mae cyhoeddiad heddiw yn gam yn y cyfeiriad cywir.
"Mae'r CBI wastad wedi bod o'r farn mai'r ffordd ddu oedd yr opsiwn fwyaf doeth ac effeithiol.
"Dyw'r M4 o amgylch Casnewydd ddim yn addas ar gyfer y ganrif hon. Y rhan yna o'r briffordd yw gwythïen economaidd Cymru ac mae eisoes â thagfeydd ac yn debygol o waethygu...
"Mae safon a dibynadwyedd yr isadeiledd drafnidiaeth yn chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniadau buddsoddi sefydliadau a does dim rhan bwysicach o'r rhwydwaith drafnidiaeth yng Nghymru na'r M4."
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud y bydd yn difetha bywyd gwyllt.
Maent yn dweud mai dyma'r "penderfyniad trafnidiaeth gwaethaf posib ar gyfer de ddwyrain Cymru" ac y byddai wedi bod yn bosib gwella'r ffyrdd am bris llawer yn llai.
Mi fydd y broses o ddewis cwmni ar gyfer gweithredu'r cynllun yn dechrau yn y man.