Medal aur i Jazz Carlin

  • Cyhoeddwyd
Jazz Carlin
Disgrifiad o’r llun,

Jazz Carlin eiliadau wedi iddi ennill y fedal aur

Mae Jazz Carlin wedi ennill medal aur arall i Gymru yn Gemau'r Gymanwlad - y drydedd i Gymru yn y Gemau.

Roedd y nofwraig wedi gosod record y Gymanwlad wrth gymhwyso ar gyfer rownd derfynol y ras 800m dull rhydd, a hi oedd y ffefryn.

Er hynny roedd y ras yn agosach nag y byddai wedi gobeithio, gyda Lauren Boyle o Seland Newydd yn cadw'r pwysau arni.

Ond fe orffennodd yn gryf iawn dros y 100m olaf gan orffen mewn record newydd o 8:18:11 - dros ddwy eiliad o flaen Boyle.

Wrth gael ei holi yn syth wedi'r ras, dywedodd Jazz Carlin:

"Ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd fe wnes i golli yn y 50m olaf felly dwi wedi gweithio'n galed eleni ar ddiwedd y rasio, ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed.

"Roeddwn i ychydig yn siomedig gyda'r amser, gan fy mod yn credu y gallwn i wedi mynd yn gyflymach!"

Boyle gafodd y fedal arian gyda Brittany MacLean o Ganada yn cipio'r efydd.