Cyffordd yr M4 yn cau am gyfnod arbrofol
- Cyhoeddwyd
O ddydd Llun bydd cyffordd 41 yr M4 i gyfeiriad y gorllewin ger Port Talbot yn cau ddwywaith y dydd.
Mae'n rhan o arbrawf gan Lywodraeth Cymru i geisio lleihau traffig yn ystod yr oriau brig - a hynny am yr wyth mis nesa'.
Fe fydd y gyffordd yn cau rhwng 07:00 a 09:00 a rhwng 16:00 a 18:00 o ddydd llun i ddydd Gwener.
Daeth y penderfyniad i gau'r gyffordd am gyfnod arbrofol yn dilyn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru, cyngor Castell-nedd Port Talbot, Siambr Fasnach Port Talbot, y gymuned leol a Busnes Cymru.
Mae'r aelod cynulliad lleol a'r aelod seneddol lleol wedi mynegi pryder am effaith yr arbrawf ar y dref.
Dywedodd Hywel Francis, AS Aberfan: "Byddwn yn cadw golwg manwl ac yn monitro'r effaith ar drigolion lleol wrth i ni barhau i wrthwynebu'r cynllun."
Dywedodd David Rees, AC Aberafan: "Mae'r cyhoedd wedi ymuno yn ein hymgyrch yn erbyn y cynllun. Mae'n rhaid i lais y cyhoedd gael eu clywed wrth i ni asesu'r cyfnod prawf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2014