The Gentle Good yw Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014
- Cyhoeddwyd
The Gentle Good sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014 - y wobr gynta' o'i bath yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig yng Nghaffi Maes B nos Iau, ar ôl i 11 o feirniaid drafod y gystadleuaeth yn ystod y prynhawn.
Roedd rheithgor o unigolion sy'n ymwneud â'r diwydiant cerdd yng Nghymru wedi bod yn trafod cynnyrch y flwyddyn, ac roedd 10 o albwms ar y rhestr fer:
•Alaw - Melody
•Bromas - Byr Dymor (Rasp)
•Candelas
•DnA - Adnabod (Fflach Tradd)
•Gildas - Sgwennu Stori (Sbrigyn Ymborth)
•Gwenan Gibbard - Cerdd Dannau (Sain)
•Llwybr Llaethog - Dub Cymraeg (Neud Nid Deud)
•Plu (Sbrigyn Ymborth)
•The Gentle Good - Y Bardd Anfarwol (Bubblewrap Records)
•Yr Ods - Llithro (Copa)
China a Chymru
Fe gafodd album The Gentle Good - Y Bardd Anfarwol - ei hysbrydoli gan daith chwe wythnos Gareth Bonello i ardal Chengdu yn China, a'i rhyddhau ar label Bubblewrap Collective.
Mae'n plethu dylanwadau gwerinol China a Chymru wrth adrodd hanes bywyd a barddoniaeth y bardd chwedlonnol Li-Bai
Dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan: "Datblygwyd y syniad o Wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gan fod yr Eisteddfod yn awyddus i roi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio neu'i chreu'n ddiweddar.
"Mae nifer o wahanol ddisgyblaethau'n cael eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod, ac mae gwobrau'n bodoli ar gyfer mathau arbennig o gerddoriaeth, ond ein bwriad ni yw dathlu pob math o gerddoriaeth sy'n cael ei chreu yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
"Bu'r drafodaeth rhwng y rheithgor gwreiddiol yn hynod ddiddorol, gyda nifer fawr o albymau o bob math yn cael eu trafod, gan gwmpasu pob math o steil a genre cerddorol, a chredaf fod y rhestr fer a ryddheir heno yn adlewyrchu'r drafodaeth hon.
'Lle i wobr fel hon'
"Bu'r drafodaeth rhwng y beirniaid brynhawn Iau hefyd yn arbennig o ddiddorol, a braf oedd gwrando ar farn yr unigolion ar albymau o wahanol genres. Diolch iddyn nhw am eu gwaith a'u cyfraniad.
"Rwy'n credu bod yr amrywiaeth ar y rhestr yn dangos bod lle i wobr fel hyn, gyda nifer fawr o albymau wedi cydio yn nychymyg y rheithgor. Mae'n anodd meddwl am unrhyw wobr arall lle y byddai cerddoriaeth 'dub' ar yr un rhestr fer ag albwm cerdd dant!"
Bydd The Gentle Good yn derbyn tlws gan Ann Catrin Evans, wedi'i gomisiynu'n arbennig ar gyfer y wobr.