Cymro'n cerdded ar hyd Mongolia ar ei ben ei hun
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro ifanc wedi llwyddo i gerdded 1,500 o filltiroedd ar draws gwlad Mongolia - y person cyntaf erioed i gwblhau'r gamp ar ei ben ei hun.
Treuliodd Ash Dykes, 23, o Fae Colwyn, 78 niwrnod yn croesi'r wlad anghysbell, gan ddringo mynyddoedd yr Altai a chroesi diffeithdir anialwch y Gobi.
Roedd yn rhaid iddo orchfygu stormydd tywod, blinder ac unigedd wrth gwblhau y gamp, ac fe gafodd ei ddisgrifio gan y brodorion lleol fel y ''llewpart eiraf unig''.
Dyma'r tro cyntaf i neb gerdded ar ei ben ei hun rhwng ffin orllewiniol Mongolia gyda Rwsia, i ffin ddwyreiniol y wlad gyda Tsieina.
Ar ôl cwblhau'r daith ddydd Mercher, fe ddywedodd y Cymro: ''Mae'n deimlad hollol afreal. Tydw i heb arfer gyda'r peth eto - mae'n swreal. Tydw i heb gael amser eto i ystyried y gamp. Rydw i wedi llwyddo i wneud rhywbeth yr oedd llawer o bobl wedi ei ddisgrifio fel peth amhosib i'w gwblhau.''
Ar ei daith roedd Ash yn llusgo trelar bychan oedd yn pwyso 120kg, yr holl ffordd o Olggi yng ngorllewin Mongolia i dref Choybalsan yn nwyrain y wlad. Roedd y trelar yn cario pecynnau bwyd a chasglwr dŵr, yn ogystal ag offer gwersylla.
Unigedd
Yn ystod ei ddiwrnod hiraf o gerdded, llwyddodd i deithio 55km mewn 14 awr. Cyrhaeddodd uchder o 2,700m ar hyd y daith. Roedd yr unigedd yn ystod y siwrne yn rhywbeth yr oedd yn rhaid i'r anturiaethwr ei frwydro yn ddyddiol. Dywedodd:
''Roedd yn anodd weithiau i adael teulu clen mewn pentref bychan neu 'yurt', i wynebu anhawsterau ar fy mhen fy hun unwaith eto. Un tro fe wnes i gerdded am wyth diwrnod heb weld un enaid byw. Ond roeddwn i mor benderfynol fe wnes i sicrhau nad oedd hynny am effeithio arnai.
Fe ddioddefodd yr anturiaethwr effeithiau blinder gwres difrifol wrth groesi anialwch y Gobi, ond fe ddywedodd ei fod wedi derbyn cymorth i gysgodi rhag wres yr haul gan trigolion a nomadiaid lleol. Yn ôl Mr Dykes:
''Roedd y tymheredd dyddiol yn cyrraedd dros 40 gradd selsiws a doedd na unlle i ddianc rhag yr haul a'r gwres - does na ddim gwynt na chysgod.
''Fe ddes i o hyd i lecyn er mwyn gorffwys am ychydig ddyddiau cyn cryfhau digon i barhau gyda'r daith.''
Nid dyma'r tro cyntaf iddo fentro ar daith uchelgeisiol. Mae wedi croesi mynyddoedd yr Himalayas o'r blaen, ac wedi croesi Fietnam ar gefn beic. On hon oedd y daith mwyaf anodd meddai o:
'Profiadau bythgofiadwy'
''Mae na gymaint o brofiadau bythgofiadwy wedi bod ar y daith yma - mae'n amhosib eu rhestru i gyd. Roedd y stormydd - er mor ffyrnig - yn rhai anhygoel i'w gweld.
''Drwy gydol yr anturiaeth roeddwn yn teimlo balchder mawr o fod wedi gallu gweld gwlad gyda thirlun mor amrywiol ac amgylchedd mor heriol.
''Roedd y bobl leol yn hynod o glen, cyfeillgar, ac roedd y teulu yn chwarae rhan ganolog yn eu bywydau.''