Cyfarfod i drafod symud carafanau rhag tirlithriad
- Cyhoeddwyd
Bydd perchnogion carafanau gwyliau mewn parc hamdden ym Mro Morgannwg yn cyfarfod i drafod symud eu carafannau oddi wrth ymyl clogwyni.
Cafodd y carafanau eu symud yn ôl o'r dibyn ym Mharc Hamdden Porthceri dair blynedd yn ôl, wedi i dirlithriad eu gadael mewn sefyllfa beryglus ar ymyl y clogwyni.
Yn dilyn y tirlithriad hwnnw, cafodd 18 carafán eu hail-leoli, ond bydd 12 carafán arall nawr yn cael eu symud ar ôl i arbenigwyr ddarganfod symudiad yn y ddaear gerllaw.
Dywedodd perchennog y parc hamdden Sally Edwards ''efallai nad oedd yn ddim'', ond ychwanegodd: ''Dydyn ni ddim am beryglu bywydau pobl.''
Fe ddisgynnodd tua 34,000 tunnell o greigiau i lawr ar draeth yn 2011, gan adael rhai o'r carafannau'n beryglus o agos at ymyl y clogwyn. Ers hynny mae daearegwr wedi bod yn cadw llygad ar y sefyllfa yn gyson.
Dywedodd Sally Edwards fod symudiad 15mm wedi ei ddarganfod yn y ddaear yn ystod yr archwiliad diwethaf.
''Does dim wedi digwydd dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ond rydym ni fel cwmni yn teimlo nad ydyn ni'n fodlon cymryd unrhyw risg,'' meddai.
''Gallai fod yn ddwy flynedd, fe allai fod yn 20 mlynedd, ond dydyn ni ddim yn fodlon cymryd y risg yna ac felly rydym yn bwriadu symud y carafanau i ffwrdd o ymyl y clogwyn a'u lleoli mewn man arall ar y safle.''
Fe ddywedodd fod bron i £1 miliwn wedi ei wario ar fonitro'r sefyllfa ac ar adnoddau i wneud y gwaith hwnnw.
Bydd perchnogion y carafanau yn derbyn cynnig o leoliad arall ar y safle, neu ad-daliad o'r ffioedd safle am weddill y flwyddyn.''