Mynediad am Ddim yn 40 oed
- Cyhoeddwyd
Wrth gloi Steddfod Sir Gâr nos Sadwrn, mae Mynediad am Ddim hefyd yn dathlu'r deugain - mae'r grŵp gwerin yn dal i berfformio ers ffurfio yn 1974. BBC Cymru Fyw fu'n holi un o'r aelodau, Robin Evans, ar y Maes.
Sut dechreuodd Mynediad am Ddim?
"Mi gychwynon ni fel grŵp coleg 'nôl yn 1974. Fe ffurfion ni ar gyfer y 'steddfod ryng-golegol oedd yng Nghaerdydd ar y pryd, a 'dw i'n cofio'n bod ni'n canu ac yn cystadlu mewn rhyw selar, yn yr hyn oedd yn Cory Hall ar y pryd, sydd ddim yn bod bellach. Mae'n rhan o'r Captial Shopping Centre yng ngwaelod Heol y Frenhines rŵan.
"Dw i'n cofio'n bod ni'n cystadlu ar y parti gwerin, grŵp gwerin, grŵp pop ac mi 'oddan ni'n canu cymysgedd o ganeuon yn yr hen ddyddiau - fel Dafydd ap - a dw i'm yn siwr a oedd Beti Wyn yn un o'r rhai gwreiddiol. Yn sicr 'odda ni'n canu'n ddi-gyfeiliant mewn rhyw dri neu bedwar llais.
"Dw i'n credu'n bod ni'n rhyw grŵp o chwech ar y pryd. Emyr Wyn a Graham a finne - sef y tri sy'n dal wrthi ar ôl 40 mlynedd. Iwan Roberts, Mei Jones a Dewi 'French Horne' fel 'odda ni'n ei alw fo am y rheswm amlwg bod o'n chwarae'r corn Ffrengig."
Oes gennych chi unrhyw atgofion difyr i'w rhannu efo ni?
"Mae'n siŵr mai'r daith i Lydaw ydy un o'r straeon gorau erioed o'n safbwynt ni. Mi gawson ni wahoddiad i fynd i ŵyl yn Brest - 1979 oedd hi 'dwi'n meddwl - rhyw ŵyl go fawr, yn ôl beth oeddan ni'n dallt ac mi oedd y Dubliners wedi bod ynddi flwyddyn cynt ac mi 'odda nhw eisiau i ni fynd iddi'r flwyddyn ar ôl hynny yn '79.
Wel mi ddudon ni, ma' Llydaw bach yn bell i fynd am un noson. Fysa'n golygu bod ni'n colli gwaith, fysa ni'n goro mynd i Plymouth, mynd ar y cwch, mi fysa'n golygu rhyw dri, bedwar diwrnod i ni. Ond dim os ydach chi'n hedfan, medda'r trefnwyr. Ond 'nath o erioed groesi ein meddwl ni wrth gwrs, a dyna fu. Gawson ni ddigon o ffi i gyfiawnhau bod ni'n llogi awyren i hedfan a pherfformio am un noson mewn cae ar gefn lori, o flaen ryw 3,000 o bobl yn Llydaw, tu allan i faes awyr Brest."
Beth am unrhyw gigs gwael?
"'Nathon ni ryw daith efo Theatr y Werin ryw dro rownd sir Aberteifi. 'Odd Theatr y Werin yn 'neud rhyw ddrama fechan, ac mi oeddan ni'n canu rhyw hanner awr neu dri chwartar. A dw i'n cofio un noson ym mherfeddion sir Aberteifi, mi oeddan ni ar y pryd yn saith yn y grŵp ac mi oedd 'na chwech yn y gynulleidfa! Dw i'n credu mai honna oedd un o'r nosweithia' mwya' diflas mewn 40 mlynedd - mor wahanol i rywle fel y Cnapan."
Pam eich bod chi'n dal wrthi ar ôl cymaint o flynyddoedd?
"Yr ateb syml i hynny, mae'n debyg, ydy pam stopio? I mi'n bersonol, fel mae hi dyddia' yma, fi ydy'r unig un sy'n byw yn y gogledd ac i mi'n bersonol mae'n ffordd arbennig o dda o gadw ffrindie, ffrindie coleg."
Mae'n ychwanegu: "Ond jest mwynhau ydan ni dw i'n meddwl. 'Da ni ddim wedi cael lot o gyfle i ddysgu lot o stwff newydd ar hyd y blynyddoedd. Ond ar ôl deud hynny, yr hen ganeuon mae pobl yn licio clywed p'run bynnag.
"Da ni wedi cyhoeddi cwpl o bethe newydd ar hyd y daith. Gawson ni CD newydd rhyw dair blynedd yn ôl lle mae'r rheiny i gyd yn ganeuon newydd. Mae o i gyd 'di bod yn hwb a mae o jest yn hwyl achos 'da ni erioed wedi bod yn enwog am fod yn ddifrifol iawn ar lwyfan yn hynny o beth. Mae o jest yn hwyl ac yn ffordd o gadw ffrindie."
Mae'r sîn werin yng Nghymru i weld yn ffynnu ar y funud. Beth ydy'ch argraffiadau chi?
"Dw i'n meddwl bod o'n grêt a ma' safon y grwpia' rwan - 'da ni'n gallu rhamantu am y 70au, Edward H, Hergest, Mynediad am Ddim ac eraill. Er bod ni wedi bod yn canu'n ddi-dor, dw i'n prysuro i dd'eud ers blynyddoedd, 'da ni erioed wedi rhoi'r gorau iddi. Ond 'da ni'n twyllo'n hunain os ydan ni'n meddwl bod hynny'n well na mae hi rwan.
"Dw i meddwl bod safon rŵan llawn cystal, os nad yn well na safon grwpia' fel ni yn y cyfnod hwnnw. 'Odd na rhyw fwrlwm adeg hynny digwydd bod ac mae 'na fwrlwm rŵan. Dw i jest yn falch ofnadwy bod y bobl ifanc yn bennaf yn dal ati a bod eu safon nhw - mae 'na grwpiau gwych, mae 'na unigolion gwych yn canu gwerin. Ond dim jest gwerin, ond bod y sîn bop stroc gwerin mor gry'."
Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan Eisteddfod arbennig.