Cofeb i filwyr a gollwyd o Eglwyswrw

  • Cyhoeddwyd
Cofeb Eglwyswrw
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gofeb yn cofio am 25 o feibion y pentref a laddwyd yn y rhyfeloedd byd

Can mlynedd wedi dechrau'r Rhyfel Mawr mae cofeb newydd wedi cael ei ddadorchuddio ym mhentref Eglwyswrw yn Sir Benfro i feibion yr ardal a gollwyd yn y ddau ryfel byd.

Cafodd seremoni ddadorchuddio ei harwain gan Esgob Tyddewi a Gwir Barchedig Wyn Evans.

Mae enwau'r 24 fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac un yn yr Ail Ryfel Byd wedi eu torri ar garreg gyda llechen uwch ei phen y tu allan i Eglwys Sant Cristiolus yn y pentref.

Bu plant yr ysgol leol yn gosod croesau pren wrth droed y gofeb wrth i enwau'r milwyr fu farw gael eu darllen gan gyn arweinydd Cyngor Sir Benfro, John Davies.

Cymdeithas Hanes Eglwyswrw sydd wedi talu'r gost o godi'r gofeb - ychydig dros £2,000.

Dywedodd Mr Davies wrth y BBC ei fod yn perthyn i Evan Owen Davies - yr enw cyntaf ar y gofeb.

"Roedd e'n frawd i 'nhad-cu... yn anffodus ddaeth Evan ddim adre, ond fe ddaeth ei frawd, Wncwl Dewi, adre'n ddiogel."

Roedd perthnasau i nifer o'r milwyr sydd â'u henwau ar y gofeb yn bresennol ar gyfer y seremoni dadorchuddio.

Disgrifiad o’r llun,

Bu seremoni i gysegru'r gofeb yn Eglwyswrw