Angen codi ymwybyddiaeth o ofal lliniarol mewn rhai cymunedau

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad gan Ofal Canser Marie Curie wedi darganfod tan-ddefnydd o wasanaethau gofal lliniarol oddi fewn i gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws ardal Caerdydd a'r Fro.

Mae ymchwil yr elusen gyda chymunedau lleol wedi casglu bod cymunedau lleiafrifol ethnig yn llai tebygol o ddewis defnyddio gwasanaethau hosbis yng Nghymru oherwydd pryderon am iaith, cyfleusterau crefyddol a gofynion dietegol.

Yn ôl yr adroddiad, mae yna deimlad hefyd fod meddygon teulu yn gallu bod yn amharod i awgrymu dewisiadau gofal lliniarol i bobl o leiafrifoedd ethnig.

Ychydig yn defnyddio gwasanaeth hosbis

Esboniodd Shameem Nawaz, Swyddog Datblygu Cymunedol Marie Curie, sy'n gyfrifol am greu cysylltiadau â chymunedau lleiafrifoedd ethnig ar draws Caerdydd a'r Fro:

"Rwy'n credu ei fod yn gamsyniad cyffredin fod pobl o ddiwylliannau eraill yn gofalu am berthnasau sâl ac oedrannus yn eu cartrefi eu hunain, ond mae pethau wedi newid. Nid yw pobl bob amser yn byw yn yr un ddinas, neu hyd yn oed yr un wlad â'u perthnasau.

"Cafodd fy rôl i ei chreu gan fod ychydig iawn o bobl o leiafrifoedd ethnig yn defnyddio gwasanaethau hosbis yng Nghymru."

Dywedodd Vaughan Gething, AC De Caerdydd a Phenarth, sydd hefyd yn ddirprwy weinidog dros daclo tlodi: "Rwy'n cynrychioli un o'r etholaethau mwyaf amrywiol o safbwynt diwylliannol yng Nghymru. Mae cymysgu diwylliannau a phobl o bedwar ban byd yn rhan o'n hanes a'n dyfodol ar y cyd.

"Er gwaetha'r ffaith ein bod yn dathlu amrywiaeth Cymru gyfoes, mae rhwystrau rhag mynediad i ofal lliniarol i bobl mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn dal i fodoli.

"Os nad ydyn ni'n mynd i'r afael ag e, gall yr anghyfartaledd yma achosi problemau arwyddocaol ar gyfer pobl trwy gydol eu bywydau...

"Mae angen mynd i'r afael â'r heriau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal ddiwedd oes o ansawdd uchel ar gael ar gyfer pob un o'n cymunedau."