Targed canser: Perfformiad yn gwaethygu
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn dilyn dirywiad yng nghanran y cleifion sy'n derbyn triniaeth am achosion brys o ganser o fewn y targed.
Dangosodd ffigyrau gafodd eu cyhoeddi heddiw mai dim ond 84.3% o'r cleifion sydd angen triniaeth frys wnaeth ddechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod ar gyfer mis Mehefin.
Roedd hyn yn ddirywiad sylweddol o'r ffigwr ar gyfer y mis blaenorol, oedd yn 88.5%, ac yn cynrychioli'r perfformiad gwaethaf ers mis Mehefin 2013.
Targed y llywodraeth yw 95%. a'r tro diwethaf i'r targed hwnw gael ei gyrraedd oedd Mehefin 2008.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod hyn yn "fater o gywilydd cenedlaethol" ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud ei fod yn "warthus".
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod y mwyafrif yn cael eu trin o fewn y targed a bod cynnydd o 20% wedi bod yn y niferoedd sy'n derbyn triniaeth yn y flwyddyn ddiwethaf.
'Cywilydd'
Mewn ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd Darren Millar: "Mae oedi difrifol o hir yn gamblo gyda bywydau cleifion. Mae'n annheg ac nid yw'n dderbyniol mewn GIG fodern.
"Mae'n anhygoel o bryderus i weld y targed yma'n cael ei fethu fis ar ôl mis ac mae'n rhaid i ffigyrau heddiw fod y methiant olaf wnaiff orfodi gweinidogion Llafur i weithredu.
"Mae chwe blynedd bellach wedi mynd heibio heb i'r ymrwymiad yma, allai achub bywydau, gael ei gyrraedd gan Lafur.
"Mae hynny'n fater o gywilydd cenedlaethol."
'Annerbyniol'
Fe ddywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams bod "amseroedd yn gwaethygu" o dan oruchwyliaeth y Gweinidog Iechyd presennol.
Ychwanegodd: "Allwn ni ddim parhau i adael cleifion canser a'u teuluoedd heb y driniaeth amserol maen nhw ei angen.
"Mae disgwyl dros ddeufis am driniaeth yn gwbl annerbyniol, ond ar gyfer llawer o gleifion canser dyna yw'r realiti o fewn GIG Llafur Cymru."
Cynnydd yn nifer y cleifion
Mewn ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ffigyrau yma unwaith eto yn dangos fod y mwyafrif helaeth y cleifion canser yn dechrau eu triniaeth o fewn yr amser targed o 31 a 62 diwrnod.
"Er bod y galw am wasanaethau canser yn parhau i godi, mae'r GIG yng Nghymru yn parhau i drin mwy o bobl o fewn yr amser targed.
"Dros y 12 mis diwethaf (Gorffennaf 2013 i Fehefin 2014) mae cynnydd o bron i 20% wedi bod yn nifer y cleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod - 901 yn fwy o gleifion nag yn y 12 mis blaenorol.
"Rydym yn parhau i weithio gyda'r byrddau iechyd i wella triniaeth ganser yng Nghymru ymhellach a, drwy waith y cynlluniau gweithredu canser lleol, yn gwella'r canlyniadau ar gyfer pob claf sy'n cael diagnosis o ganser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014