Euro 2016: Cyfle'r genhedlaeth euraidd?

  • Cyhoeddwyd
Ashley WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Ashley Williams ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Luxembourg ym Mawrth 2008

Mae amddiffynwr Abertawe Ashley Williams yn credu y byddai arwain Cymru i rowndiau terfynol Euro 2016 yn well nag unrhyw beth arall y mae wedi ei gyflawni yn ei yrfa.

Mae Cymru'n dechrau eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif bencampwriaethau yn Andorra nos Fawrth. Er iddyn nhw gyrraedd wyth olaf y gystadleuaeth yn 1976, roedd y gystadleuaeth yn wahanol iawn bryd hynny a doedd dim rowndiau rhagbrofol fel y maen nhw'n cael eu cynnal heddiw.

Yr unig dro felly i Gymru gymhwyso i un o'r prif gystadleuthau oedd yn 1958, a Chwpan y Byd.

Er i Ashley Williams arwain Abertawe i ennill Cwpan Capital One yn 2013 a bod yn aelod o'r tîm enillodd ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair, dywedodd:

"Hwn fyddai gorchest fwyaf fy ngyrfa. Ry'n ni gyd yn ymwybodol o dimau gwych o Gymru yn y gorffennol sydd wedi boddi wrth ymyl y lan am ba bynnag reswm."

'Cyrraedd potensial'

Wrth gwrs mae disgwyl i Gareth Bale ac Aaron Ramsey fod yn rhan o'r tîm fydd yn dechrau'r gêm yn Andorra sydd wedi colli bob un o'u 44 gêm ers iddyn nhw gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn y Ffindir naw mlynedd yn ôl. Dydyn nhw heb sgorio mewn 18 gêm gystadleuol.

Ychwanegodd Williams: "Mae'r pwysau arnom ni - ry'n ni am fod y tîm wnaeth gyrraedd ei botensial.

"Mae'r amseru yn berffaith. Rydym wedi setlo ac wedi chwarae gyda'n gilydd ers tro bellach."

Wedi iddyn nhw gael eu dewis mewn grŵp gyda Bosnia-Hercegovina, Belg, Israel, Cyprus ac Andorra yn Grŵp B, mae'r gobaith yn cynyddu y gallai Cymru ddod â'r aros i ben gan bod y ddau dîm uchaf yn y grŵp yn mynd yn syth i'r rowndiau terfynol.

Bydd cyfle arall i'r timau sy'n gorffen yn drydydd hefyd fynd i'r gystadleuaeth yn Ffrainc yn 2016.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r garfan yn ymarfer ar gae artiffisial Andorra nos Lun

Rhan o'r gobaith yna yw cryder y garfan. Yn ogystal â Bale a Ramsey, mae Joe Allen a Ben Davies ymhlith nifer o chwaraewyr eraill sy'n ennill eu bara menyn yn Uwchgynghrair Lloegr.

Un pryder posib yw Stadiwm Andorra. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar gae artiffisial, ac fe gafodd Cymru'r cyfle cyntaf i ymarfer arno nos Lun wedi i'r cae gael cymeradwyaeth UEFA ar gyfer y gêm yr wythnos ddiwethaf.

'Siom yn ysbrydoli'

Mae'r rheolwr Chris Coleman yn rhannu'r gobeithion, ond fel un sydd wedi bod yn aelod o'r tîm cenedlaethol yn ystod rhai o siomedigaethau'r gorffennol, mae'n ymwybodol hefyd o'r peryglon.

"Mae'r siom yna'n beth cas," meddai. "Roedden i'n meddwl ein bod ni'n mynd i lwyddo ddwywaith - colli i Romania ac yna yn y gemau ail gyfle i Rwsia.

"Mae'r teimlad yna o fod mor agos ac eto mor bell yn un o'r pethau sy'n fy ysbrydoli nawr.

"Mae'r criw yma o chwaraewyr yn griw da iawn. Fy ngwaith i yw eu gwarchod nhw pan maen nhw'n cael eu labelu fel 'y genhedlaeth euraidd' - dydyn nhw ddim yn hynny eto.

"Mae'n rhaid iddyn nhw gyflawni rhywbeth cyn y gallan nhw gael eu hystyried fel y genhedlaeth euraidd, ac maen nhw'n gwybod hynny."