Datganoli: Canllaw termau
- Cyhoeddwyd
 datganoli dan y chwyddwydr unwaith eto, mae'n debyg y clywch chi'r termau isod yn eitha' aml. Ond beth ydy eu hystyr nhw?
COMISIWN SILK
Ymchwiliad - gafodd ei lansio gan lywodraeth y DU - wnaeth argymell datganoli rhagor o bwerau i Lywodraeth Cymru.
Mae'n cael ei enw gan gadeirydd yr ymchwiliad - cyn glerc y Cynulliad Cenedlaethol, Paul Silk.
CWESTIWN GORLLEWIN LOTHIAN
Mae trafod mawr a ddylai ASau o Gymru a'r Alban gael pleidleisio ar faterion seneddol neu ddeddfau sy'n effeithio ar Loegr yn unig.
Dyw ASau o Loegr ddim yn cael pleidleisio ar ffioedd dysgu yng Nghymru oherwydd bod addysg uwch wedi ei ddatganoli, er enghraifft.
Mae'r 'Cwestiwn Gorllewin Lothian' - sydd wedi ei enwi ar ôl Tam Dalyell, cyn AS Gorllewin Lothian yn yr Alban - yn gofyn ydi'r sefyllfa'n deg?
DEVO MAX
Talfyriad o derm sydd, at ei gilydd, yn golygu'r nesa' peth at annibyniaeth o ran datganoli.
Gallai gynnwys pwerau llawn dros drethi a lles.
Dydi Carwyn Jones ddim yn credu y byddai'n gweithio yng Nghymru.
Er hyn, mae o am weld Cymru'n cael cynnig yr un opsiynau â'r Alban.
FFORMIWLA BARNETT
Y dull sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i bennu dosbarthiad gwariant cyhoeddus o gwmpas y DU.
Yn ôl beirniaid, mae Cymru'n cael ei thangyllido hyd at £300 miliwn bob blwyddyn oherwydd y fformiwla.
Mae'r gwleidydd ddyfeisiodd y system, yr Arglwydd Joel Barnett, am weld diwedd ar y fformiwla.
Ond fe addawodd David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg warchod y system yn ystod eu hymgyrch cyn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth.
BARNETT PLWS
Fformiwla newydd fyddai, yn ôl cefnogwyr y syniad, yn mynd i'r afael â'r hyn mae gwleidyddion Cymru yn ei weld fel tangyllido i Gymru o dan y fformiwla Barnett presennol. Does dim manylion penodol wedi'u cadarnhau ar y fformiwla arfaethedig yma eto.
MESUR CYMRU
Wedi argymhellion Silk I, mae'r mesur yn cael ei drafod yn San Steffan, ac fe fydd yn datganoli pwerau dros rhai trethi - yn cynnwys treth stamp - i Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal, mae'n nodi proses cynnal refferendwm i benderfynu a ddylai Llywodraeth Cymru gael pwerau cyfyngedig dros dreth incwm.
PWERAU WEDI'U CADW'N ÔL
Setliad datganoli newydd fyddai - yn ôl cefnogwyr - yn haws i'w ddeall ac yn osgoi anghytuno rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan ynglŷn â beth gaiff y Senedd wneud.
Mae'r Alban eisoes yn defnyddio'r model 'Cadw Pwerau'n Ôl'.
Mae'n golygu fod popeth wedi ei ddatganoli i Gaeredin, heblaw am bwerau penodol sy'n cael eu cadw gan San Steffan, fel lles a materion tramor.
Dyma'r math o ddatganoli mae Llywodraeth Cymru am ei weld yma, a'r math o ddatganoli mae Silk 2 yn ei argymell i Gymru.
LOCKSTEP
Mae'r term hwn yn cyfeirio at y mecanwaith fyddai'n sicrhau bod pob band treth yn newid yr un faint, fel y cynigwyd i Gymru gan y Prif Weinidog David Cameron yn dilyn Silk 1 (gweler isod).
O dan y drefn hon, petai unrhyw lywodraeth yng Nghymru eisiau cynyddu'r radd uchaf o dreth incwm o 2% yn y dyfodol, yna byddai'n rhaid iddyn nhw godi'r dreth sylfaenol a'r trethi is o 2% hefyd, gan gyfyngu ar unrhyw bosibilrwydd o symud cyfoeth o'r bobl gyfoethocaf i'r tlotaf.
Arweiniodd y lockstep at anghytuno o fewn y Ceidwadwyr Cymreig, gyda'r arweinydd Andrew RT Davies yn diswyddo aelodau o gabinet yr wrthblaid.
Mae'r llefarydd a gafodd ei ddiswyddo - oedd yn cefnogi'r blaid yn ganolog - wedi cael ei swydd yn ôl erbyn hyn, ac mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi awgrymu y byddai'r cynllun lockstep yn cael ei anghofio pan fydd pwerau trethu'n cael eu trafod eto yn y Senedd.
SILK 1 a 2
Mae adroddiad cyntaf Comisiwn Silk yn argymell datganoli pwerau trethu a benthyg i Lywodraeth Cymru.
Yn yr ail adroddiad, mae 'na argymhelliad i ddatganoli rhagor o bwerau i Lywodraeth Cymru, yn cynnwys plismona a chyfiawnder ieuenctid.
Does 'na ddim ymrwymiad i ddeddfu Silk 2 cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesa'.