Dathlu pen-blwydd yr ysgol Gymraeg gyntaf yn 75
- Cyhoeddwyd
Mae'r ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed.
Cafodd yr ysgol ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1939, a bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn yr ysgol ddydd Iau.
Fel rhan o'r dathliadau, bydd portread arbennig o Syr Ifan ab Owen Edwards, gafodd ei beintio yn y 50au, yn cael ei gyflwyno i'r ysgol.
Dim ond chwe disgybl oedd yn yr ysgol pan agorodd dan arweiniad Norah Isaac, ond bellach mae dros 400 o ddisgyblion.
Un o'r chwe disgybl gwreiddiol hynny oedd Prys Edwards, mab Syr Ifan ab Owen Edwards, a dywedodd ei fod yn falch iawn cael cyflwyno'r darlun i'r ysgol.
"Fe'm ganwyd i yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, a oedd hefyd yn gartref i fy nheulu," meddai.
"Y brifathrawes ar y pryd oedd Norah Isaac, a Mary Vaughan Jones, creawdwr 'Sali Mali', yn athrawes arnaf i - a dyna i chi bartneriaeth anhygoel!"
Tyfu a thyfu
Dywedodd bod yr ysgol wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac felly wedi bod yn ddechrau ar "rwydwaith" o ysgolion cyfrwng Cymraeg.
"Tyfodd a thyfodd yr ysgol, ond yn naturiol cynyddodd y costau hefyd, nes y bu rhaid i'r Cyngor Sir ei chymryd drosodd yn y diwedd.
"Ond yn sgil yr ad-drefniant hwn, cychwynnwyd ar y broses o greu rhwydwaith o ysgolion Cymraeg dros Gymru gyfan."
Ychwanegodd ei fod yn cyflwyno'r portread o'i dad "gan obeithio y bydd ei waith yn ysbrydoli ieuenctid Cymru i weithio hyd eithaf eu gallu dros ein hiaith; ac i athrawon a chefnogwyr ein hiaith barhau gyda'u gwaith amhrisiadwy o ddatblygu'r Urdd mewn cytgord â'r gyfundrefn addysg."
Mewn digwyddiad arbennig ddydd Iau, bydd côr yr ysgol yn perfformio, llawer o'r plant yn gwisgo gwisgoedd o'r cyfnod, a hefyd cyfle i flasu bwyd y cyfnod.
Yn ogystal â'r disgyblion, bydd cyn-ddisgyblion a chefnogwyr yr ysgol yn cael cyfle i fod yn rhan o'r dathlu.
Dywedodd pennaeth strategol yr ysgol, Clive Williams: "Mae hi wedi bod yn hwyl paratoi at y diwrnod. Rydym ni i gyd yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliad mor bwysig ac allweddol.
"Erbyn hyn mae dros 400 o blant yn yr ysgol ac mae hynny yn dangos twf a phoblogrwydd addysg Gymraeg yn Aberystwyth ar hyd y blynyddoedd."
Gallwch ddarllen rhagor am hanes Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ein Cylchgrawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012