Ward Tawel Fan: yr heddlu yn ymchwilio

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd

Bydd yr heddlu'n ymchwilio i ofal cleifion ar ward iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, wedi iddi gael ei chau'r llynedd oherwydd "pryderon difrifol".

Clywodd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddydd Mawrth bod honiadau "difrifol iawn" wedi eu gwneud ynglŷn â gofal cleifion ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Cafodd y ward oedd yn trin cleifion oedrannus a'r rheiny gyda dementia, ac yn rhan o uned seiciatrig Ablett, ei chau ym mis Rhagfyr 2013 pan gafodd yr honiadau eu gwneud gyntaf.

Cafodd nifer o aelodau o staff eu gwahardd o'r gwaith ar y pryd.

Ymchwilio'n drwyadl

Mae adolygiad annibynnol gan weithiwr iechyd eisoes wedi ei gynnal, ond clywodd y cyfarfod o'r bwrdd iechyd ddydd Mawrth y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cychwyn eu hymchwiliad eu hunain i'r honiadau.

Roedd yr heddlu eisoes wedi bod yn rhoi cymorth i'r bwrdd iechyd gyda'u hymchwiliad.

Dywedodd Peter Higson, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wrth y cyfarfod: "Mae'r honiadau'n peri pryder mawr ac yn ddifrifol iawn. Rydym yn hynod bryderus a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hymchwilio'n drwyadl."

'Pryderon difrifol'

Dywedodd Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth y Bwrdd Iechyd a'r Athro Matthew Makin, Cyfarwyddwr Meddygol y Bwrdd Iechyd: "Cafodd y Bwrdd wybod am bryderon difrifol staff a theuluoedd ynglŷn â gofal cleifion ar Ward Tawel Fan, Uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd ym mis Rhagfyr 2013.

"Mi wnaethon ni benderfynu cau'r ward ar unwaith a chychwyn ymchwiliad i'r materion oedd wedi eu codi. Mae'r ward wedi parhau ar gau ers hynny.

"Ym mis Ionawr 2014 mi wnaethon ni gomisiynu arolygwr allanol annibynnol i edrych ar ofal cleifion ar y ward. Mi wnaeth 40 aelod o staff a 15 o aelodau o deuluoedd gymryd rhan yn yr adolygiad ac mae'r canlyniadau bellach wedi eu rhannu gyda ni.

"Rydym ni wedi bod yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy gydol y cyfnod hwn.

"Rydym yn trin y mater hwn fel un difrifol iawn ac rydym wedi gweithredu'n gyflym er mwyn bodloni ein hunain bod pob claf oedrannus gyda phroblemau iechyd meddwl yn ein gofal yn ddiogel ac yn derbyn gofal o safon.

"Mae nifer o aelodau o staff eisoes wedi cael eu gwahardd o'r gwaith neu eu symud i ddyletswyddau sydd ddim yn ymwneud â gofal uniongyrchol o gleifion, a hynny wrth i ni ddisgwyl am ganlyniad yr ymchwiliadau.

"Oherwydd bod y mater hwn bellach yn rhan o ymchwiliad gan yr heddlu byddai'n anaddas i ni ddweud mwy, heblaw ei bod hi'n wirioneddol ddrwg gennym ni ein bod ni wedi methu cleifion a'u teuluoedd."

Ymchwiliad yr heddlu

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lisa Surridge o Uned Gwarchod y Cyhoedd Heddlu Gogledd Cymru: "Bydd swyddogion yr heddlu nawr yn cychwyn adolygu dogfennau a deunyddiau eraill sydd wedi eu casglu yn ystod yr adolygiad.

"Yn ogystal bydd swyddogion yn cysylltu â theuluoedd pobl sydd wedi bod yn gleifion yn ward Tawel Fan yn ystod y ddwy flynedd cyn i'r ward gau.

"Pwrpas ein hadolygiad a'n cyfarfodydd gyda theuluoedd fydd ceisio penderfynu os oes unrhyw dystiolaeth bod troseddau wedi cael eu cyflawni."