Tân Llanrwst: dau ddyn wedi marw

  • Cyhoeddwyd
llanrwst

Mae dau ddyn wedi marw ar ôl tân mewn fflat yn Llanrwst yn oriau mân bore Gwener.

Fe ddatgelwyd bod dyn 19 oed wedi marw yn ystod y bore. Fe ddaeth cadarnhad o farwolaeth dyn 39 oed yn hwyrach. Roedd wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn y digwyddiad.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Sgwâr Ancaster toc wedi chwech y bore 'ma.

Bu criwiau o Lanrwst, Conwy, Bae Colwyn a Llandudno, ac ysgol blatfform o'r Rhyl yn ceisio diffodd y fflamau.

Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans, fe aeth parafeddygon mewn cerbyd ymateb brys a thri ambiwlans i Lanrwst a chafodd dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd.

Dianc

Fe lwyddodd dyn arall 48 oed i ddianc o'r fflat heb anaf.

Bu'r A470 ynghau i'r ddau gyfeiriad drwy ganol y dref am oriau.

Mewn datganiad fe ddywedodd yr Uwch Arolygydd Steve Williams: "Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol y Gwasanaeth Tân a'r heddlu, mae ymchwilwyr o'r farn nad oedd trosedd.

"Yn anffodus, bu farw'r dyn 39 oed a gafodd ei gludo i'r ysbyty."

"Rydym yn cynnig ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau'r dynion wedi'r digwyddiad trasig yma. Mae'r crwner wedi ei hysbysu o'r marwolaethau."

Dylai unrhywun â gwybodaeth am y tân gysylltu â'r heddlu ar 101 a nodi'r cyfeirnod R159822.