Cymru 0-0 Bosnia-Hercegovina
- Cyhoeddwyd
Gyda munudau yn unig yn weddill bu bron i Gymru gipio tri phwynt yn erbyn Bosnia gydag ymdrech wych gan Gareth Bale.
Bydd Cymru nawr yn gobeithio am fuddugoliaeth gartref yn erbyn Cyprus ddydd Llun, a chipio saith pwynt allan o'r naw posib ar ôl y tair gem gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.
Roedd hon yn gem agored gyda sawl cyfle i'r ddau dîm ac roedd Cymru yn ddiolchgar i Wayne Hennseey am atal yr ymwlwyr rhag sgorio.
Dechreuodd Cymru yn bositif gyda salw ymosodiad lawr y dde.
Roedd yna gyfle cynnar i Bale ar ôl croesiad gan Jonathan Williams.
Ond roedd yna fraw i Gymru funudau'n ddiweddarach a bu'n rhaid i Hennessey fod ar ei orau i arbed ergyd o 30 llath gan Miralem Pjanic.
Yna, wrth i Bosnia bwyso daeth y bêl i Ben Davies a roddodd pas gampus i Bale, wnaeth redeg hebio'r amddiffyn ond aeth ei ymdrech uwchben y gol.
Arbediad gwych
Daeth cyfle gwych i Gunter ar ôl i Gymru weithio'r bel lawr y chwith, Church yn bwydo Taylor ac ef yn croesi. Ond yn anffodus aeth ergyd Gunter dros y postyn
Ond ar ôl 27 munud daeth rhybudd arall o barodrwydd Bosnia i ergydio o bell, y tro hwn ymdrech Pjanic yn mynd i'r chwith o bostyn Hennessey.
Ac am y chwarter awr cyn yr egwyl Bosnia oedd yn rheoli'r patrwm chwarae, ond heb greu cyfle clir.
Lai na phum munud wedi'r ail ddechrau daeth cyfle gwych i'r ymwelwyr, croesiad o'r chwith ond Hennessey yn arbed yn wych wrth draed Medunjanin.
Yna funudau'n ddiweddarach bu'n rhaid i Hennessey wthio'r bêl hebio ei bostyn de o beniad Edin Dzeko.
Yn dilyn tacl James Chester, aeth ei enw i lyfr y dyfarnwr, ac yna yn dilyn anghytuno rhwyg y chwaraewyr aeth enwau'r ddau gapten i'r llyfr, Ashely Williams a Dzeko.
Daeth cyfle da i Gymru yn dilyn cic rydd Bale wnaeth ddarganfod Ashley Williams ar ochr y blwch cosb ond roedd ei beniad yn llawer rhy uchel.
Roedd cyfleon da i'r ddau dim, gan gynnwys ergyd gref o 'r eilydd Robson-Kanu, yn dilyn peniad Bale.
Yna gyda dau funund yn weddill a gyda gol Cymru dan fygythiad, cafodd y bel ei chlirio i Bale. Yn wynebu tri dyn fe lwyddodd i ergydio a bu angen arbediad gwych gan Begovic.
Cymru: Hennessey, Gunter, Chester, Williams, Davies, Taylor, King, Williams, Ledley, Bale, Church
Eilyddion: Edwards, Robson-Kanu, Williams, Cotterill, Gabbidon, Ricketts, Lawrence, Edwards, Taylor, Letheren, Williams.
Bosnia-Hercegovina: Begovic, Mujdza, Hadzic, Sunjic, Lulic, Besic, Susic, Medunjanin, Pjanic, Dzeko, Ibisevic.
Eilyddion: Vrsajevic, Vranjes, Fejzic, Cimirot, Prcic, Visca , Hajrovic, Dujkovic, Kvesic
Gemau Grwp B
Gwlad Belg 6-0 Andorra
Cyprus 1-2 Israel
Cymru 0-0 Bosnia-Hercegovina