Cymru 2-1 Cyprus
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi llwyddo i aros ar frig Grŵp B yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 wedi buddugoliaeth mewn gêm llawn digwyddiadau yn erbyn Cyprus yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd Cymru eisoes yn dechrau'r gêm yn erbyn Cyprus gydag 11 dyn ar goll o'r garfan oherwydd anafiadau ac fe aeth pethau'n waeth o fewn y pum munud cyntaf.
Arweiniodd tacl yng nghefn Simon Church at yr ymosodwr yn gorfod gadael y cae, a gyda phrinder ymosodwyr ar y fainc roedd angen tipyn o ail-drefnu.
Ychydig yn ddiweddarach, daeth tacl waeth o lawer ar Gareth Bale - fe gafodd yr amddiffynnwr gerdyn melyn am y dacl, ond fe welodd Joe Ledley un hefyd am ei ymateb yn wyneb y dyfarnwr.
Roedd Bale yn ffodus i beidio cael anaf, ac roedd Cymru'n ddiolchgar iawn am hynny oherwydd fe chwaraeodd ran allweddol wrth i Gymru fynd ar y blaen.
David Cotterill - yr eilydd ddaeth i'r maes yn lle Church - oedd piau'r ergyd. Aeth Bale amdani, ac er na chafodd gyffyrddiad roedd ei bresenoldeb yn ddigon i achosi dryswch ac fe aeth y bêl i gefn y rhwyd.
Ar ôl 22 munud roedd hi'n 2-0 - sgiliau Bale ddaeth o hyd i Hal Robson-Kanu, ac er nad oedd ganddo gymorth yn y byd fe osododd y bêl rhwng coesau golwr Cyprus.
Roedd Cotterill yn ffodus i beidio gweld cerdyn coch wedi 35 munud ar ôl tacl wael, ond melyn yn unig oedd dehongliad y dyfarnwr o'r digwyddiad.
Ond o fewn munud i hynny roedd Cyprus yn ôl yn y gêm. Roedd yr amddiffyn ar fai wrth i gic rydd Vincent Laban ddod i gwrt Cymru a phawb yn ei methu hi.
Roedd Bale yng nghanol popeth i Gymru - cyn yr egwyl fe darodd y trawst gyda chic rydd a chael peniad yn cael ei wthio drosodd am gic gornel.
Gêm yn newid
Ond aeth pethau go chwith wedi dim ond dau funud o'r ail hanner - gwelodd Andy King gerdyn coch am dacl wael, ac roedd Cymru'n wynebu tri chwarter awr gyda deg dyn.
I wneud pethau'n waeth fe welodd Gareth Bale gerdyn melyn am ddadlau gyda phenderfyniad y dyfarnwr, ond roedd angen i Gymru ddangos cymeriad.
Fe ddechreuodd y pwysau gan yr ymwelwyr - Christofi i ddechrau gydag ergyd heibio'r postyn, ond daeth cyfle gwell fyth pan gafodd Efrem beniad rhydd ond mi fethodd gyda'r gôl yn wag.
Daeth Dave Edwards i'r maes yn lle George Williams er mwyn cryfhau canol cae, ac fe sefydlogwyd rhywfaint ar berfformiad Cymru.
Er hynny daeth cyfle arall gwych i Efrem, ond gyda'r un canlyniad. Peniad oedd yn ymddangos yn hawdd, ond dros y trawst â hi.
Daeth ambell gyfle i Gymru hefyd cyn y diwedd gyda Cotterill ac Edwards yn mynd yn agos.
Ond y peth pwysig oedd peidio ildio - mi lwyddodd Cymru i wneud hynny a chadw'u gafael ar driphwynt allai fod yn allweddol.