Gwallau iaith yng nghaffi Starbucks yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Arwydd yng nghaffi Starbucks, Aberystwyth.

Mae rheolwr cangen o'r siopau coffi Starbucks yn Aberystwyth yn dweud eu bod nhw'n "hynod siomedig" bod yna wallau sillafu a threiglo amlwg yn y brawddegau Cymraeg sydd wedi eu peintio ar waliau eu siop newydd yn y dre.

Dyma ydy'r gangen gyntaf o eiddo'r cwmni yng Nghymru sy'n arddangos y Gymraeg, ac mae'r mwyafrif o'r waliau wedi eu gorchuddio gyda brawddegau uniaith Gymraeg sy'n disgrifio'r broses o gasglu a rhostio'r ffa, a'r gwahanol fathau o goffi sydd yn eu diodydd.

"Pan agoron ni'r siop, roedden ni'n awyddus iawn i gael gymaint o Gymraeg a phosib yma, ac fe ofynnon ni i ffynhonnell ddibynadwy i drosi'r brawddegau ar ein rhan" meddai Steve Simpson, rheolwr Starbucks yn Aberystwyth.

"Fodd bynnag, pan ddaeth y cyfieithiad yn ôl roedd hi'n amlwg i ddau aelod o staff bod y brawddegau Cymraeg yn hynod wallus, ac fe aethon nhw a ni ati i'w cywiro, cyn i arlunydd ddod i'r siop i'w gosod ar y wal. Er gwaetha pob gofal, fe ddaeth hi i'r amlwg rhai diwrnodau wedyn bod yna wallau ieithyddol yn y brawddegau o hyd, ac rydyn ni'n ymddiheuro am hynny."

Dywedodd Steve Simpson y bydd yr ysgrifen yn cael ei newid yn fuan iawn, ac y byddan nhw'n anfon defnyddio gwasanaeth cyfieithwyr proffesiynol pan fydd y bwydlenni yn newid yn ystod y flwyddyn.