Bae Colwyn: Cwblhau gwaith gwerth £6.7 miliwn
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith diweddaraf Prosiect Glan y Môr ym Mae Colwyn wedi ei gwblhau, gan olygu bod yr ardal wedi ei hail-agor i'r cyhoedd.
Mae prosiect Glan y Môr yn gyfres o amddiffynfeydd môr a gynlluniwyd i amddiffyn rhag llifogydd a difrod o'r môr, gan ddiogelu'r rheilffordd, yr A55, busnesau a chartrefi ym Mae Colwyn.
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwella'r promenâd.
£6.7 miliwn
Mae'r cam diweddaraf o'r gwaith, sy'n werth cyfanswm o dros £6.7 miliwn, yn cynnwys gwaith atgyweirio hanfodol i'r wal fôr bresennol ac adnewyddu'r rhan o'r promenâd rhwng Porth Eirias a'r pier, gyda'r promenâd yn cael ei godi ac yn cael wyneb newydd.
Dechreuodd y gwaith ym mis Mawrth eleni.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant amddiffyn rhag llifogydd gwerth £5 miliwn i'r prosiect, gan ariannu'r gwaith i'r wal fôr a gwaith pellach i ail-lenwi'r traeth drwy fewnforio 220,000 tunnell o dywod gan ymestyn traeth Bae Colwyn.
Ariannwyd y gwaith o wella'r promenâd a'r cyswllt â'r dref o dan y rheilffordd, a oedd yn golygu gosod wynebau a goleuadau newydd, gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (Wefo) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
'Gwaith hanfodol'
Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet dros Briffyrdd, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd: "Mae'r prosiect Glan y Môr yn darparu ateb tymor hir a fydd yn amddiffyn y dref am flynyddoedd i ddod.
"Gwelodd pawb effaith y stormydd ar ddechrau'r flwyddyn, a sut y mae'r gwaith hwn yn cyflawni ei swyddogaeth o warchod y promenâd a'r dref.
"Heb y gwaith hanfodol hwn, byddai'r stormydd wedi cael mwy o effaith ym Mae Colwyn."
Ychwanegodd y cynghorydd Graham Rees, Aelod y Cabinet dros Dwristiaeth, Marchnata a Hamdden: "Bydd y traeth a'r promenâd yn asedau gwych i breswylwyr a bydd yn gwella profiad ymwelwyr ym Mae Colwyn am flynyddoedd i ddod, a fydd hefyd yn helpu adfywiad economaidd y dref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2013