Fflach o'r Gorllewin
- Cyhoeddwyd
1978 oedd y flwyddyn y penderfynodd dau frawd geisio efelychu eu hoff fandiau pync gan ffurfio band mewn tref farchnad dawel yn y gorllewin.
Erbyn Mai 1979, ar ôl ymarfer yn galed trwy'r gaeaf, roedd Ail Symudiad yn barod ar gyfer eu gig cyntaf ym Mart Aberteifi.
Bloedd y dorf ar ddiwedd y noson oedd: "Mae Terry Griffiths wedi ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd!"
Er gwaetha' bod yng nghysgod y cyn-bostmon o Lanelli'r noson honno - aeth Ail Symudiad o nerth i nerth.
Cafodd BBC Cymru Fyw gyfle i hel atgofion gyda Richard Jones, un o'r brodyr, am hanes y band a chyflwr y sîn roc Gymraeg:
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
"Gormod i enwi ond ymysg y rhai sydd yn dod i feddwl ma' gigs Blaendyffryn, gigs Canolfan Tan y Bont, Caernarfon (sydd nawr yn faes parcio), Noson Sgrech yn 1982 pan ennillon ni wobr y prif grŵp, gigs Twrw Tanllyd - gan gynnwys noswaith Twrw Tanllyd, Top Rank Eisteddfod Abertawe yn 1982.
"Roedd 'na buzz o gael mynd i recordio yn stiwdios Sain a Richard Morris a chael ein record yn ein dwylo yn barod i werthu."
Sut lwyddoch chi ffurfio band a chithau heb fynd i'r coleg?!
"Ha ha... wel mae'n swnio fel jôc, ond ar y pryd yn 1977,1978 roedd bron pob band Cymraeg yn dod o golegau Aber neu Bangor. Wedd dim unrhyw gysylltiadau 'da ni gyda trefnwyr, radio, teledu... o'n i'n dilyn y sîn Gymraeg ac yn campio yn yr Eisteddfod ac es i gig Meic Stevens yn Eisteddfod Hwlffordd, ond 'o ni ddim yn gwbod lle i ddechre.
"Daeth y newid wrth i ni siarad gyda'r Trwynau Coch yn Drefach, Felindre. Wnaethon nhw ddweud wrthon ni gysylltu gydag Eurof Williams yn y BBC yn Abertawe (cynhyrchydd rhaglen Sosban).
"Mae'n eithaf embarrassing ond sgrifennes i lythyr at Eurof, gyda tâp o'n caneuon ac arwyddo fy enw fel 'Rhisiart'. Sbel fach wedyn drefnon ni gwrdd ag Eurof ar steps Clwb Tan y Bont a ddaeth e aton ni a gofyn..."Helo bois a pwy yw Rhisiart?"
"Roedd Malcolm Gwyon gyda ni a fe ofynodd e: "Pwy ddiawl yw Rhisiart!?... Pam ti'n galw dy hun yn Rhisiart?" Dyna oedd diwedd Rhisiart Jones!!"
Beth yw'r newid mwyaf o'r adeg hynny i'w gymharu â nawr?
"Wel os ti'n edrych nôl i'r gigs yn y Top Rank adeg Eisteddfod Abertawe a mae'n debyg oedd dwy fil o bobl 'na... roedd tynnu am ddwy fil yn noson Sgrech hefyd, ac er roedd rheini'n 'chydig o eithriadau, roedd cael gigs mawr fel 'na yn weddol gyffredin.
"Sdim byd fel whare o flaen torf fawr fel 'ny, ond yr un mor bwysig oedd y buzz o chware yn rhywle fel Clwb Tan y Bont gyda falle 150 o bobol ond y lle'n packed!
"O ran Fflach, wel y newid mawr yw y symud tuag at downloads sy' wedi effeithio'r farchnad CDs yn ddifrifol. Ma'r farchnad cerddoriaeth wedi newid. Yng ngweddill y byd, gigs a merchandise sy'n talu am recordio a mae'r gerddoriaeth bron am ddim....yng Nghymru, dyw hynna ddim yn gweithio, a gydag arian royalties lawr hefyd mae'n tyff iawn.
"Ar y llaw arall, ma' Ail Symudiad yn lwcus achos ni'n gallu bod ar raglenni fel Heno, Noson Lawen a'r Stiwdio Gefn...so ma' gwaith teledu yn help mawr dyddie 'ma."
Petai chi'n gorfod rhoi £10,000 i'r person neu fudiad helpodd chi fwyaf, pwy fyddai'n cael yr arian?
"Byddai rhaid rhannu'r arian rhwng Cymdeithas Adloniant Cymru, oedd yn trefnu Twrw Tanllyd yn yr Eisteddfodau gynt a Chymdeithas yr Iaith. Hefyd cylchgrawn Sgrech, Malcolm Gwyon, sydd wedi bod yn ffrind, yn artist ac yn roadie, ac Eurof Williams, rhaglen Sosban, a Richard Rees. 'Na fe, rhannwch e rhyngoch chi!"
Teimlo'n bositif neu'n poeni am y dyfodol?
"Mae'n rhaid fi ddweud, poeni ar y cyfan. Ma'r busnes wedi newid o ran recordio a gwerthu fel wedes i'n gynt, ond tra ni dal yn joio, yna fyddwn ni'n cadw fynd.
"Ma' 'da fi perspective bach yn wahanol, achos fy nervous breakdown. Pan o'n i'n sâl iawn yn yr ysbyty, doeddwn i ddim ishe pigo gitâr lan, ac yn wir am amryw o resymau, 'o'n i ddim yn gallu ffurfio chords. Wnes i ddim 'da'r gitâr am ddwy flynedd ond wedyn un dydd biges i fe lan a dechrau chware. Roedd chware yn y band, o flaen cynulleidfa yn cathartic iawn, ac ar ddiwedd y dydd mae hynna'n dangos pa mor bwysig yw e!"
Ble fydd hi nesaf?
"Mae'r band wedi bodoli ers 1978 ond wedi bod yn newid yn gyson o ran aelodau ac yn wir wedi chwalu unwaith, a hefyd cyfnod tawel pan fues i'n sâl a dyna oedd y rheswm pam oedd y band ddim yn chwarae gigs rhwng 2003 a 2007.
"Beth sydd i ddod? Wel o edrych yn ôl, cymryd yr hwyl, yr hiwmor a'r joio ni wedi ei gael wrth chwarae gyda'r band a rhedeg Fflach, a chadw mynd tra fod ni dal yn joio.
"Y datblygiad mwyaf fydd datblygu Stiwdio Fflach ar gyfer y dyfodol er mwyn gallu manteisio ar waith recordio a gwaith sain mwy amrywiol ac arbenigol fel dybio rhaglenni teledu."
Mae llyfr yn olrhain hanes y band, 'Fflach o Ail Symudiad' (Y Lolfa) wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar, a bydd cyfle i glywed rhai o glasuron y band mewn rhifyn arbennig o'r Stiwdio Gefn: Ail Symudiad ar S4C, Nos Fercher, 29 Hydref.