'Penderfynol o gael Nadolig arferol' ar ôl cael strôc yn 36 oed

Ruth Jones gyda'i phlant o flaen y goeden NadoligFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ruth Jones, roedd yn anodd teimlo'n Nadoligaidd yn fuan wedi iddi gael strôc annisgwyl yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Pan gafodd Ruth Jones strôc yn 36 oed ychydig cyn y Nadolig yn 2021, doedd hi ddim yn teimlo fel dathlu'r ŵyl.

Gyda'i phlant yn 10 a chwech oed ar y pryd ac wedi cyffroi gyda'r Nadolig ar y gorwel, roedd yn gyfnod anodd i'r athrawes o Gonwy.

"O'n i ddim yn teimlo dim byd, ddim yn teimlo'n festive o gwbl, ddim isio rhoi decorations fyny na dim byd fel 'na."

Ond ar ôl sgwrs gyda'i mam, penderfynodd yr athrawes o Gonwy bod yn rhaid iddi ymdopi, a'i bod eisiau treulio'r ŵyl adref a gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le ar gyfer y plant.

Cleifion strôc yn teimlo'n faich ar deuluoedd

Mae ymchwil newydd gan y Gymdeithas Strôc yn awgrymu bod traean o gleifion strôc yn teimlo eu bod nhw'n faich ar eu teuluoedd a'u hanwyliaid adeg yr ŵyl.

Dywedodd bron i hanner y cleifion gafodd eu holi eu bod wedi colli'r gallu i goginio, addurno'r tŷ neu hyd yn oed ymweld â theulu.

Ruth JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ruth ei bod yn gwybod yn syth ei bod wedi cael strôc pan gododd yn y bore a theimlo bod rhywbeth ddim yn iawn

Cafodd Ruth Jones ei tharo'n wael yn gwbl annisgwyl yn 2021.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd iddi ddechrau teimlo nad oedd hi'n gwbl iawn y diwrnod cynt, ac iddi fynd i'w gwely gyda chur difrifol yn ei phen.

Erbyn iddi ddeffro y bore wedyn roedd yn gwybod bod rhywbeth mawr o'i le.

"Nes i fynd i'r bathroom a nes i weld yn y mirror, o'dd 'na rywbeth, o'dd fy wyneb i gyd jest yn droopio un ochr, ac o'n i'n gwybod yn union be o'n i'n gael, o'n i'n cael strôc."

'Isio bod adref hefo'r plant'

Dywedodd fod yn rhaid iddi gynllunio popeth yn fwy manwl na'r arfer ar gyfer Nadolig y flwyddyn honno oherwydd ei salwch.

"O'n i mor 'styfnig, o'n i ddim isio mynd i dŷ neb arall yn ystod Nadolig, dwi isio bod hefo'r plant adref, so o'dd raid i fi jest cynllunio popeth, a gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le.

"Nes i goginio'r cinio Dolig y diwrnod cynt a rhoi o yn y microwave y diwrnod wedyn.

"O'dd o ddim yn amazing, ond nes i copio achos o'dd rhaid i fi copio."

Dywedodd hefyd fod yna fwy o straen ariannol y Nadolig hwnnw, gan na allai fynd i siopa fel arfer, gan brynu ar-lein, a thrio gwneud iawn am ei salwch gydag anrhegion i'w phlant.

Yn ôl arolwg y Gymdeithas Strôc, mae bron i draean goroeswyr strôc hefyd yn teimlo'n rhwystredig nad ydyn nhw'n gallu gwneud yr hyn roedden nhw'n arfer gallu ei wneud ar gyfer y Nadolig cyn cael eu taro'n wael.

  • 28% yn dweud na allen nhw goginio cinio Nadolig

  • 26% yn dweud eu bod yn methu ymweld â theulu neu adael y tŷ

  • 23% yn dweud eu bod yn methu addurno'r goeden Nadolig

  • 19% yn dweud eu bod yn methu chwarae gyda'u plant neu eu hwyrion a'u hwyresau.

Dywedodd Kate Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymdeithas Strôc Cymru: "Mae cymaint ohonom yn cysylltu'r Nadolig ag adeg hapus, bod gyda theulu a ffrindiau a mwynhau traddodiadau'r ŵyl.

"Ond i 7,000 o bobl eraill yng Nghymru, eleni fydd eu Nadolig cyntaf ar ôl cael strôc a tydi'r pethau rydyn ni'n eu cymryd yn ganiataol bellach ddim yr un fath.

"Gall strôc gael effaith gorfforol, yn ogystal â thrawma emosiynol, gyda goroeswyr yn wynebu siwrnai hir i ail-ddysgu sgiliau sydd wedi cael eu colli ac addasu i amgylchiadau newydd.

"Ond, gyda chryfder a dyfalbarhad a'r gefnogaeth gywir, mae gwella yn bosib."

Ruth JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bedair blynedd ers ei strôc, mae Ruth yn dweud ei bod "methu aros" at ddathlu Nadolig 2025

Er bod Ruth Jones yn dweud bod rhai anhawsterau yn parhau ar ôl ei strôc, dywedodd fod pethau'n teimlo'n wahanol iawn ar gyfer y Nadolig bedair blynedd yn ddiweddarach.

"Dwi'n caru dathlu, ac alla i ddim aros i wisgo'r matching PJs eto.

"Mae gen i berspectif gwahanol erbyn hyn, a dwi ddim angen profi fy hun i unrhyw un.

"Dwi jest eisiau dathlu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig