Trên yng Nghorwen am y tro cyntaf mewn hanner canrif

  • Cyhoeddwyd
Tren Corwen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y reilffordd ei hadnewyddu gan wirfoddolwyr yn bennaf

Mae cynllun i adnewyddu'r rheilffordd yn Sir Ddinbych wedi dwyn ffrwyth ddydd Mercher, wrth i drên stem deithio ar hyd y lein am y tro cyntaf mewn 50 mlynedd.

Cafodd y cynllun, sydd werth £1 miliwn, ei gwblhau gan wirfoddolwyr, ddechreuodd ail-adeiladu Rheilffordd Llangollen yn y 1970au.

Y tro diwethaf i wasanaeth deithio rhwng Llangollen a Chorwen oedd yn 1965.

Rheilffordd Llangollen mewn rhifau

  • Roedd angen clirio 2.5 milltir o lwybr i'r rheilffordd

  • Cafodd 400 o gledrau 60 troedfedd o hyd eu defnyddio, a 24 o drawstiau i bob cledr.

  • Mae pum croesfa wedi eu hadnewyddu i safonau modern

  • Cafodd pum milltir o ffensys eu hadnewyddu

  • Cost y prosiect i gyd oedd tua £1.3m

Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr ei bod hi'n "hyfryd iawn" cael gweld y trên yn rhedeg.

"Dyma'r tro cyntaf i drên redeg o Garrog i Gorwen ers Ionawr 1965," meddai Peter Fisher.

"Dwi'n meddwl bydd y rheilffordd yn rhoi hwb sylweddol i'r economi lleol. Bydd yn dod â phobl o'r gorllewin ac yn denu ymwelwyr i'r ardal o'r ddau gyfeiriad.

"Bydd golygfa hyfryd i'w weld ar y siwrne a bydd yn agor allan golygfeydd newydd o Garrog i Gorwen.

"Mae'n 10 milltir bron o Langollen i Gorwen felly ma' hwn yn rhoi Rheilffordd Llangollen yn y premier league."