Jordan, Y Kop a Steven Gerrard

  • Cyhoeddwyd
Jordan WilliamsFfynhonnell y llun, Nick Taylor/Liverpool FC

Mae 'na Gymro ifanc sydd wrthi yn creu cryn argraff ar y byd pêl-droed, wrth iddo fyw breuddwyd yn chwarae'n broffesiynol i Lerpwl. Fe gymrodd Jordan Williams egwyl o'i sesiwn ymarfer i gael sgwrs efo BBC Cymru Fyw am ei brofiad yn un o glybiau mwyaf y byd.

Rho ychydig o dy gefndir i ni.

"O'n i'n byw ym Mangor nes mod i'n 12, yn chwarae i dîm Penrhos cyn symud i Academi Bangor. O fanno, ges i fy sgowtio gan Wrecsam, ac es i yno pan yn 10 a chwarae iddyn nhw am bedair blynedd. Wnes i symud yno pan yn 12.

"Yna ges i fy sgowtio gan Lerpwl. Es i i weld sawl clwb fel Manchester City ac Everton, ond es i i Lerpwl ac arwyddo iddyn nhw.

"Dwi'n meddwl na'r hyfforddwyr wnaeth fy nenu i, mae'n glwb teuluol. Dwi'n mwynhau hyfforddi yma ac o'n i'n dod ymlaen yn dda hefo'r hogiau."

Sut brofiad ydi hyfforddi yn yr Academi?

"Mae'n grêt. Mae'r hogiau i gyd yn ymladd am le yn y tîm cyntaf, ac mae'r hyfforddiant yn wych yma, mae'r hyfforddwyr yn briliant. Mae'n glwb grêt i fod yn rhan ohono ar hyn o bryd."

Sut gefnogaeth wyt ti wedi ei gael gan chwaraewyr y tîm cynta'? A pwy yw'r cymeriadau mwya' yn y clwb?

"Mae 'na lawer iawn. Steven Gerrard ydi'r mwyaf amlwg, a'r esiampl orau. Mae o'n edrych ar ein holau pan 'da ni'n mynd yno (i hyfforddi hefo'r tîm cyntaf) ac yn rhoi cyngor gwych i ni.

Pan 'da ni'n mynd i fyny at y tîm cyntaf mae'n bwysig i gymysgu hefo nhw achos dydw i ddim wastad yn mynd i fod hefo'r hogiau sydd yn yr Academi, felly mae angen cymysgu.

Ond mae grŵp grêt o hogiau yma, rydyn ni gyd yn helpu ein gilydd."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Steven Gerrard - Arwr a dylanwad mawr ar Jordan, ac yn wir Lerpwl

Oes 'na un chwaraewr rwyt ti'n ei edmygu fwya' yn y clwb?

"Mae'n siŵr na Steven Gerrard ydi hwnna, achos ei fod yn esiampl grêt i ni gyd; y ffordd y mae o mor broffesiynol, bob dydd mae'n dod i mewn yn barod i ddysgu.

Falle ei fod yn mynd ychydig yn hŷn erbyn hyn ond bob dydd mae o'n dal i ddysgu a fo ydi'r un sy'n hyfforddi orau bob dydd."

Sut mae bod yn yr Academi yn dy helpu i ddatblygu fel chwaraewr?

"Mae'n eich datblygu fel chwaraewr achos eich bod yn chwarae hefo chwaraewyr gwych bob dydd, ac mae hyfforddwyr gwych yma.

"Pan wnes i ddod yma am y tro cyntaf, hogyn o Gymru, roedd o'n anodd, achos nol ym Mangor does 'na ddim llawer o bobl.

"Mae Lerpwl yn glwb enfawr, ond ym Mangor neu Penrhos, yn amlwg o'n i ond yn hogyn ifanc ac yn gorfod dysgu lot fawr, fel sut i ddelio gyda chwaraewyr gwahanol ac yn y blaen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 20 cic o'r smotyn eu sgorio yn gêm gystadleuol gyntaf Jordan

Disgrifia sut brofiad oedd chwarae yn dy gêm gystadleuol gyntaf i Lerpwl yn erbyn Middlesbrough yn y gwpan. Ac i sgorio cic o'r smotyn yn dy gêm gyntaf hefyd?

"Roedd camu ar y cae yn foment balch iawn i mi ac i fy nheulu, ac roedd hi'n gêm wych i fod yn rhan ohoni gan bod hi yn y gwpan ac aeth i amser ychwanegol.

"Roedd cymryd y gic o'r smotyn yn brofiad gwych, sydd wedi bod yn help i fi yn fy ngyrfa pêl-droed, gan bod delio gyda'r math yna o bwysau yn rywbeth doeddwn i erioed wedi ei wneud o'r blaen.

"Pan ddaeth at fy nhro i o'n i'n meddwl 'be ydw i wedi ei wneud yma?!'

"Ond erbyn i mi gyrraedd y smotyn a'r dorf yn gweiddi, roedd hynny yn hwb mawr."

Ffynhonnell y llun, Andrew Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan yn dipyn o lond llaw yn barod i rai o oreuon Lerpwl - Martin Skrtel, Ricky Lambert a Mario Balotelli

Oedd hi'n anodd symud o Fangor?

"Oedd mi oedd yn anodd, ond roedd gen i fy nheulu i fy nghefnogi, ac mi wnes i ffrindiau da ar y ffordd. Pan o'n i'n Wrecsam o'n i'n nabod rhai pobl yn barod felly oedden nhw'n help.

"Wedyn pan es i i Lerpwl wnes i ffrindiau newydd yno, ac mi wnaethon nhw edrych ar fy ôl hefyd.

"Dydw i ddim yn difaru. Dwi yn ei fethu gan ei fod yn le braf i fyw, ac mae gen i ffrindiau da yno, ond mae'n rhaid i chi symud ymlaen hefo pel-droed a dyma dwi isho ei wneud."

Faint o help ydych chi'n ei gael gan y clwb yn ymwneud a'ch bywyd y tu allan i bêl-droed?

"Mae'r clwb yn rhoi lot o help, yn amlwg mae pel-droed yn rywbeth anodd ac mae lot o bobl eisiau bod yn eich lle.

"Ond maen nhw'n edrych ar ôl unrhyw beth rydych chi ei angen, boed hynny'n help hefo rhywle i fyw neu unrhyw beth."

Ffynhonnell y llun, Nick Taylor/Liverpool FC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan yn benderfynol o gadw'i lygaid ar y bêl wrth i'w yrfa ddatblygu

Sut gefnogaeth mae dy deulu wedi rhoi i ti?

"Mae mam wedi bod yn help mawr i mi, mae hi wedi fy nghefnogi ers i mi ddechrau chwarae i Benrhos ac wedi mynd a fi i bobman."

Rwyt ti wedi cynrychioli Cymru yn y tim dan 21, wyt ti'n gobeithio cynrychioli'r tim cyntaf yn y dyfodol?

"Yndw dwi'n gobeithio. Does gan y tim dan 21 ddim gem tan fis Chwefror rŵan, ond os gai gyfle i fynd yno eto galla i ddangos fy sgiliau, a gobeithio gai gyfle yn y tim cyntaf."

Beth yw dy obeithion am y dyfodol?

"Ar hyn o bryd dwi 'isho cario ymlaen i chwarae i Lerpwl gan mod i wrth fy modd yma, dyma lle o'n i isho bod erioed, felly dwi angen cario mlaen i weithio'n galed, a dangos be' dwi'n gallu ei wneud."

Cliciwch yma i glywed Jordan Williams yn sgwrsio efo Ar y Marc, BBC Radio Cymru am ei fywyd yn Lerpwl