Dynion sydd â chanser yn fwy tebygol o deimlo'n isel

  • Cyhoeddwyd
cancrFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 88% o ddynion oedd yn dioddef o gancr yn dangos gwelliant sylweddol yn y modd yr oeddynt yn teimlo ar ol derbyn cyngor pellach.

Mae ymchwil newydd yn awgrymu fod dynion yng Nghymru sydd â chanser yn fwy tebygol o deimlo'n isel, yn bryderus ac yn dioddef teimladau o anobaith o gymharu â menywod ar ôl iddynt gael diagnosis.

Mae'r elusen Tenovus wedi dweud fod dynion yn ei chael yn fwy anodd i ddod i delerau â'r clefyd, ond dim ond un ym mhob pump sydd yn gofyn am gymorth i ymdopi.

Mae'r elusen wedi datgelu unwaith oedd y dynion yn dechrau derbyn cefnogaeth, roedd 88% ohonynt yn dangos gwelliant sylweddol yn y modd yr oeddynt yn teimlo.

Cafodd yr ymchwil ei ryddhau ddydd Llun.

Bydd canlyniadau'r gwaith ymchwil yn cael ei gyflwyno i'r Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol (NCRI) yn eu cynhadledd flynyddol.

"Dydyn ni (dynion) ddim yn dda iawn yn delio gyda'n iechyd yn gyffredinol," meddai rheolwr datblygu gwasanaethau Tenovus, Richard Pugh.

"Rydym yn griw anodd iawn i uniaethu â nhw, ac mae ein gwaith ymchwil wedi dangos pan fyddwn yn cymryd cyngor, mae'r canlyniadau yn fanteisiol i ni."

Ychwanegodd Claudia McVie, Prif Weithredwr Tenovus: "Mae'n ddealladwy fod llawer o ddynion yn ceisio cadw wyneb syth pan maen nhw'n cael eu heffeithio gan ganser, ond mae ein gwaith ymchwil yn dangos y gall siarad drwy eu problemau gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig wneud gwahaniaeth enfawr i'w ansawdd bywyd.

"Does dim cywilydd wrth dderbyn help llaw i wneud bywyd ychydig yn haws," meddai