Ateb y Galw: Meinir Gwilym

  • Cyhoeddwyd
Meinir Gwilym

Tro Meinir Gwilym ydi hi i ateb rhai o gwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei henwebu gan Gerallt Pennant. I gael gwybod rhai o gyfrinachau'r gantores, darllenwch ei hatebion:

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n rhyw feddwl mod i'n cofio bod mewn coets ar ochr stryd, ond beryg mai atgof gwneud ydi hwnnw. Fel arall, dwi'n cofio nhaid yn rhoi Polo Mints i mi, ac yn fy herio i "fwyta rownd y twll"!

Pwy oeddat ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Brad Pitt a George Clooney.

Mae Mr Clooney wedi torri calonnau sawl merch ar ôl ei briodas ddiweddar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Clooney wedi torri calonnau sawl merch ar ôl ei briodas ddiweddar

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae o'r math o beth fydda i'n ei wneud yn eitha' aml, ond mae'n debyg mai cerdded i mewn i ddrws gwydr yng nghyntedd yr ysgol oedd y digwyddiad sydd wedi serio orau yn fy meddwl i.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n crio'n eitha' aml, dwi'n meddwl fod o'n bwysig. Y tro diwethaf oedd wrth wylio diwedd rhaglen o'r enw 'Car SOS'. Roedd y dyn oedd yn berchen y car yn rhy wael i orffen adfer ei 'MG Miracle', ac mi oedd ei wyneb pan welodd o'r car wedi ei orffen yn ddigon i mi grio!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes :)

Dy hoff ddinas yn y byd?

Mae'n newid o hyd. Ar hyn o bryd, Paris - achos dyna lle fydda i'n mynd nesa'. Ond mae Amsterdam bob amser yn y 5 uchaf.

Oes gen ti datŵ?

Nagoes.

Beth yw dy hoff lyfr?

To Kill a Mockingbird.

Atticus Finch (gregory Peck)
Disgrifiad o’r llun,

Atticus Finch (Gregory Peck) yn amddiffyn y dyn du Tom Robinson (Brock Peters) yn y ffilm yn seiliedig ar nofel rymus Harper Lee

Pa ddilledyn fyddetti'n methu byw hebddo?

Fy hoff siwmper las. Ma' hi gen i ers dros ddeng mlynedd, ac mae hi'r peth brafiaf sy'n bod.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Roedd 'South Pacific' ar y teledu yn ddiweddar. Mi wyliais hi drwyddi am y tro cynta'.

Dy hoff albwm?

Rhy anodd! Mae 'na gymaint o gerddoriaeth sydd wedi fy nghyffwrdd i dros y blynyddoedd, mae dewis un albwm neu artist yn ormod i'w ofyn.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin- pa un ydi dy ffefryn?

Pwdin, heb os nac oni bai. Cacen gaws dda.

Mae enw Meinir Gwilym ar y sleisan yna!
Disgrifiad o’r llun,

Mae enw Meinir Gwilym ar y sleisan yna!

Pa un sydd orau, gyrru neges tecst neu ffonio?

Ffonio sydd orau, ond dwi'n hogan am y tecst. Mae'n sydyn ac i'r pwynt.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Mynach Bwdaidd.

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?

Ynyr Roberts o Brigyn.

Mae'n debyg byddai Meinir a'r Dalai Lama yn dipyn o ffrindiau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debyg byddai Meinir a'r Dalai Lama yn dipyn o ffrindiau