Canolfan i 300,000 o Gymry
- Cyhoeddwyd
Ydych chi wedi clywed am Ganolfan Cymry Llundain, dolen allanol?
Wedi ei lleoli ar Gray's Inn Road ger King's Cross, mae'n ganolbwynt lle mae alltudion o'r famwlad yn cyfarfod i drafod, canu a dathlu.
Mae Dr Non Vaughan-O'Hagan newydd ddechrau gweithio fel pennaeth newydd y ganolfan, ac yma mae hi'n sôn am ei gweledigaeth am y dyfodol a hanes difyr y gymuned Gymreig yn Llundain:
'Paradocs hyfryd'
Wel dyma fi. Brodor o Aberystwyth yng nghanol Llundain yn canfod y'n hunan mewn swydd lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol! Rwy'n ymhyfrydu ym mharadocs fy swydd newydd.
A swydd newydd sbon yw hi 'fyd. Ers ond wythnos a hanner, fi yw Prif Swyddog Gweithredol newydd Canolfan Cymry Llundain. Odi chi'n gwybod am y Ganolfan? Fuoch chi 'ma erioed?
Mae'r adeiliad yn un sylweddol sydd wedi'i leoli hanner ffordd ar hyd Gray's Inn Road. O'r drws ffrynt os droia' i i'r chwith mae King's Cross a St Pancras ond deng munud o gerdded ac oddi yno mae Caeredin neu'r Cyfandir o fewn cyrraedd ar drên. Deng munud o gerdded i'r dde a dacw fi yn Chancery Lane - canolfan cyfreithiol Llundain ac ar gyrion Y Ddinas.
Cartref oddi cartref
Adeiladwyd y Ganolfan - yn wir rhoddwyd yr adeilad i Gymdeithas Ieuenctid Cymry yn 1937 gan Sir Howell J Williams, gŵr a wnaeth ei elw yn codi rhai o adeiladau mwyaf eiconig y cyfnod gan gynnwys pencadlys y Daily Mail a phrif adeilad London School of Economics.
Gyda'i ffasâd ffug Tuduraidd mae pensaernïaeth werinol y Ganolfan yn adleisio rhyw neuadd bentre' yng nghanol Powys. A tu mewn - neuadd â llwyfan, bar cyfforddus lan lofft gyda'i drawstiau du, neuadd arall lawr stâr, lolfa, ystafelloedd ymarfer ac yn y blaen ac yn y blaen... Y fath haelioni! - a rhodd a fu'n werthfawr tu hwnt ond dwy flynedd yn ddiweddarach pan gychwynodd yr Ail Ryfel Byd.
Yma oedd cartref oddi adref i'r Cymry di-ri oedd yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn canfod eu hunain yn y Ddinas Fawr. Gyda chymorth ariannol yn dod o bob cwr o Gymru roedd y Ganolfan yn cynnig lloches a lluniaeth yn ogystal â dawnsfeydd a difyrrwch.
'Darganfod trysorau'
Wedi diwedd y Rhyfel roedd yn bryd i'r Ganolfan ganolbwyntio o'r newydd ar ei phrif nod sef cynnig croeso cynnes Cymreig i'r gweithwyr a'r myfyrwyr oedd yn heidio i Lundain.
Ac yn eu mysg oedd Mam ac Anti Eileen, ill dwy wedi mentro i Lundain gyda'i gilydd i wneud ymarfer dysgu cyn dychwelyd yn ôl i Sir Gâr. Fe soniodd Mam droeon am y dawnsfeydd fu yma a'r cyfeillion clós o Gymry oedd yn ymdroelli o un capel Cymraeg i'r llall ar y Sul er mwyn cymdeithasu.
Atgofion
Anodd peidio meddwl am Mam ac Anti Eileen ar fy ail ddiwrnod yn y swydd a finne yn darganfod y trysorau yng nghrombil y Ganolfan: Casgliad Siân Busby - y diweddar nofelydd a gwraig y gobebydd Robert Peston. Hithau wedi rhoi i'r Ganolfan yn ei hewyllys archif sylweddol o luniau a llyfrau a dogfennau yn olrhain hanes Cymry yn Llundain.
Agores i un drâr a chanfod torreth o luniau: pobol ifanc jyst fel Mam yn joio cwmni ei gilydd - eu Cymreictod ddim wedi pylu er eu bod tu hwnt i Glawdd Offa.
Mi oedd beichiau fy swydd newydd yn galw a doedd gen i ddim amser i whilmentan gormod a bu'n rhaid cau'r drâr. Ond fe fydd y dydd yn dod pan fyddai'n mynd ati i 'whil'o yn ofalus, yn y gobaith o ddod o hyd i lun o Mam ac mi fydd y cylch wedi'i gau.
Her y dyfodol
Ond am y tro, beth sy' 'da fi ar y gweill? Fy ngwelediaeth i yw bod angen i ni gymryd y cyfle gwerthfawr yma i drawsnewid y Ganolfan i fod yn Lysgenhadaeth Ddiwylliannol. Pa well amser i ddatgan yn hyderus ein diwylliant a'n hiaith i'r gymuned eang?
Mae dros 300,000 o Gymry yn byw yn Llundain a chredaf bod gan y Ganolfan gyfrifoldeb i'w cefnogi nhw yn eu hymdrech i gadw eu Cymreictod ac i ddathlu eu diwylliant.
Mae'r dyddiau o'n blaenau yn rhai heriol: angen codi ymwybyddiaeth o waith y Ganolfan i'r holl gymuned Gymreig; sicrhau bod yna raglen o weithgareddau a fydd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb ac wrth gwrs, gwireddu'r cynlluniau sy'n bodoli eisioes i adnewyddu ein cartref.
Heriol yn wir ond rwy'n hyderus bod dyfodol y Ganolfan yn un disglair - yr un mor ddisglair â'r Ganolfan yr oedd Mam yn ei hadnabod.