Llawdriniaeth newydd i gleifion canser
- Cyhoeddwyd
Mae uned llawdriniaeth robotaidd newydd ar gyfer cleifion canser y prostad wedi dechrau ar ei waith yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Y peiriant £3.5 miliwn, sy'n defnyddio nifer o fan doriadau llawfeddygol er mwyn cael gwared ar y canser, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Er bod y math hwn o dechnoleg ar gael mewn rhai ysbytai yn Lloegr, robot yr Ysbyty Athrofaol yw'r model diweddara - ac mae'n un o ddim ond chwech yn y byd.
Mae un o bob wyth o ddynion yng Nghymru yn dioddef o ganser y prostad.
O'r 2,500 o ddynion sy'n derbyn diagnosis bod blwyddyn, mae 550 yn marw.
Mae diagnosis cynnar yn hanfodol, ac mewn rhai achosion mae angen llawdriniaeth sydyn i gael gwared ar y prostad.
Cafodd robot yr Ysbyty Athrofaol ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd llawfeddygon o ardaloedd Abertawe a Chasnewydd yn defnyddio'r robot.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wrth BBC Cymru fod cynlluniau i ymestyn gwasanaeth o'r fath i weddill Cymru.