Artistiaid rhyfel ddoe a heddiw
- Cyhoeddwyd
Mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn golygu bod delweddau'r rhai fu'n ymladd ac yn marw yn yr ornest honno yn amlwg iawn eleni.
Ond yn ogystal â'r ffotograffau a'r ffilm o'r cyfnod, roedd rôl newydd yr artist rhyfel swyddogol hefyd wedi cyfrannu dehongliad arall o'r cyfnod.
Roedd artistiaid Cymreig, fel Frank Brangwyn ac Augustus John, ymhlith y rhai oedd wedi darlunio bywyd y milwyr, a'r rhai fu'n gweithio gartref.
A, fel mae gohebydd celfyddydau a chyfryngau BBC Cymru, Huw Thomas, wedi bod yn darganfod, mae'n draddodiad sy'n parhau hyd heddiw:
Wrth ymyl y milwyr oedd yn ymladd ac yn marw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yna arsyllwyr newydd i'r ornest - yr artist rhyfel swyddogol.
Er i frwydrau gael eu portreadau ar gynfas o 1066 i Trafalgar, roedd y rhyfel newydd wedi creu criw o artistiaid oedd yn gweithio gyda chefnogaeth a hyrwyddiad y llywodraeth.
Roedd rhai ohonynt yn brwydro'n greadigol gyda'r rhyfel, ac yn trio synhwyro holl bwrpas yr ymladd ar ôl iddynt fod yn filwyr yn y ffosydd.
Annog cefnogaeth
Doedd eraill ddim wedi gadael Prydain, ond cafodd nifer o'r artistiaid eu talu gan y llywodraeth i gynhyrchu cyfres o bosteri ac argraffiadau oedd fod i annog cefnogaeth i'r rhyfel.
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae rhai o'r posteri i'w gweld heddiw. Mae'r casgliad o argraffiadau o 1917 wedi'u rhannu mewn i "ymdrechion" a "delfrydau".
Mae'r "ymdrechion" yn dangos y gweithwyr yn creu llongau, menywod fel peirianwyr, a pheilotiaid yr awyrennau newydd, tra bod y "delfrydau" yn defnyddio syniadau mwy haniaethol i gyfleu peryglon llwyddiannau'r gelynion, a'r gobaith am fuddugoliaeth.
Pwrpas y casgliad oedd creu gweithiau celf, yn hytrach na phosteri propaganda traddodiadol.
Mae artistiaid Cymreig ymhlith y rhai gafodd eu comisiynu ar gyfer y gyfres.
"Y Wawr" yw paentiad alegorïaidd Augustus John sy'n cyflwyno gobaith yr heulwen ar ôl i afael Marwolaeth llacio ar y genedl, tra i Frank Brangwyn drosglwyddo ei ddiddordeb yn y môr i'w argraffiadau yn dangos morwyr wrth eu gwaith.
Mae ei waith alegorïaidd, "Rhyddid y Moroedd", yn dangos criw cwch bach yn brwydro yn erbyn anghenfil sy'n cynrychioli llongau tanfor newydd y gelyn.
'Artistiaid talentog'
Cafodd y casgliad o argraffiadau eu dosbarthu i orielau ledled y byd, ac mae'n arddangos gwaith rhai o artistiaid mwyaf talentog y cyfnod, yn ôl curadur yr arddangosfa yng Nghaerdydd, Beth McIntyre.
"Muirhead Bone, sy'n un o'r artistiaid yn y sioe, oedd yr un cyntaf ym Mhrydain i fod yn artist rhyfel swyddogol.
"Roedd y gyfres yma yn bwysig iawn iddyn nhw - fe aeth rhai i fod yn artistiaid swyddogol y rhyfel, pobl fel Eric Kennington a CRW Nevinson, ac roedd hyn yn golygu bod dim rhaid iddynt fynd yn ôl i ymladd.
"Fe roddodd hyn y cyfle iddyn nhw ddefnyddio eu sgiliau, ond hefyd eu profiadau - gan fod y ddau ohonynt eisoes wedi ymladd ar y Ffrynt Orllewinol. Yn ystod y rhyfel roedd enwau da yr artistiaid wedi cynyddu'n sylweddol oherwydd y gweithiau roeddynt yn cynhyrchu."
Mae llun yr artist o Faesteg, Christopher Williams - Y Cymry yng Nghoedwig Mametz - yn bortread hanesyddol o'r frwydr ble bu farw gymaint o filwyr Cymreig.
Yng Nghaernarfon mae'r llun ar hyn o bryd - fe fydd yn mynd yn ôl i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2016 ar gyfer canmlwyddiant yr ornest.
Ym mrwydrau cyfoes hefyd mae'r artist swyddogol wedi hawlio lle wrth ymyl milwyr Prydain. Dan Peterson o Gaerdydd yw un o'r rhai sydd wedi teithio i Afghanistan.
Fis Tachwedd 2011 fe dreuliodd fis gyda'r Marchoglu Cymreig yn Helmand. O'r darlun cyflym ar ochr y ffordd, i luniau mawr yn defnyddio paentiadau olew, mae ei weithiau a'i dechnegau yn adlewyrchu'r rhai gafodd eu creu gan yr artistiaid swyddogol ganrif yn ôl.
"Pan es i yna i ddechrau, doedd y milwyr ddim yn siŵr amdana fi o gwbl. Roedd rhaid iddyn nhw ddod i arfer gyda fi, a'r ffordd roeddwn i'n mynd i fod yn rhan o'u grŵp.
"Ond o fewn wythnos roeddwn i yn patrolio gyda nhw, ac ychydig wythnosau wedyn roeddwn i mas yn gyson gyda'r bwledi yn hedfan o'n cwmpas. Reit yng nghanol y peth.
"Fe ddwedon nhw, 'Rhaid dy fod di'n wallgof yn cario pensil yn hytrach nag arf.' Ond d'wedes i - dyna pam rydych chi yma, er mwyn i fi edrych, ac i chi edrych ar fy ôl."
Mae wedi cynhyrchu argraffiadau, paentiadau olew ac acrylig, ac mae ei waith hefyd wedi'u hargraffu mewn llyfr yn nodi teithiau'r marchoglu i Afghanistan.
Yr amseroedd pan roedd y milwyr yn ymlacio, yn dilyn yr ymladd, oedd yr amser gorau iddo eu darlunio.
"Dyna yw'r cyfnodau sy'n cyfri, y munudau neu'r hanner awr ar ôl i'r ymladd ddigwydd, pan mae'r milwyr yn gallu ystyried yr hyn sydd newydd ddigwydd."
Does fawr o newid i rôl yr artist swyddogol mewn can mlynedd. Yn ogystal â'r camerâu teledu a'r ffonau symudol, mae cynfas yr artist dal yn declyn pwysig i gofnodi brwydrau 2014.