Menter gymunedol i sefydlu 'Llety Arall'

  • Cyhoeddwyd
llety arall - safle posib.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeilad ar Stryd y Plas wedi bod yn wag ers peth amser.

Mae cynlluniau ar droed yng Nghaernarfon i sefydlu menter gymunedol er mwyn prynu un o'r adeiladau gwag ynghanol y dref, a'i droi i mewn i lety ar gyfer teithwyr o bedwar ban byd.

Un o brif amcanion 'Llety Arall' fydd i gynnig llety a phrofiad Cymreig ei naws am bris rhesymol.

Mae criw o bobl leol dan arweiniad pwyllgor sy'n cynnwys pensaer lleol Sel Jones yn gobeithio bydd y llety'n ffordd o ddathlu treftadaeth y dref unigryw, yn ogystal â chodi hyder a balchder trigolion ac ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, llety arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwyllgor yn gobeithio bydd wyth stafell wely ar gael yn y llety, a phob ystafell yn ateb gofynion gwahanol bobl, boed yn deuluoedd ifanc neu yn deithwyr unigol.

O bedwar ban byd

Dywedodd Sel Jones: "Y gobaith yw denu teithwyr o bob rhan o'r byd i ddysgu am ein hetifeddiaeth ieithyddol, forwrol, diwylliannol a diwydiannol! Yn fyr, bydd y llety yn 'hwb' i ymwelwyr sydd am weld a phrofi'r Caernarfon go iawn."

Mae cyfle wedi bod i'r rhai sydd â diddordeb ymuno yn y fenter i gael mynediad i weld sut gyflwr sydd ar du mewn yr adeilad arfaethedig. Am gyfnod roedd yr adeilad yn gartref i siop offer awyr agored y '14th Peak'. Ers hynny, mae'r adeilad wedi bod yn gartref i siop ddillad, ac yn fwy diweddar - clwb ffitrwydd.

Fe ddaeth y syniad o sefydlu 'Llety Arall, gan un o aelodu'r pwyllgor, Menna Machreth, yn sgil ei phrofiadau yn teithio Cymru a'r byd.

'Dwi'n cofio ymweld â Chaernarfon ar drip ysgol a sylweddoli bod yna gymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad ym mhob agwedd o fywyd. Wedi teithio fy hun o gwmpas, rwy'n credu bod yna farchnad yn arbennig ymhlith teithwyr annibynnol a phobl sydd â diddordeb mewn ieithoedd lleiafrifol, pobl o Gatalunya a Gwlad y Basg er enghraifft, ond rwyf hefyd yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ddenu ein cyd-Gymry i Gaernarfon a'r ardal.

Ychwanegodd: "Dysgais am fentrau cydweithredol yn ystod taith i Nicaragua yn 2013 lle mae mentrau cymunedol wedi helpu i ymrymuso cymunedau yn economaidd."

Eisoes wedi casglu £32,000

Mae'r fenter eisoes wedi casglu £32,000 mewn addunedau, Mae'r cynllun yn cynnig gwerthu cyfranddaliadau am £250 y gyfran, ond mae hefyd cyfle i bobl gyfrannu mewn ffyrdd eraill, drwy gynnig eu gwasanaethau neu lafur i'r fenter yn gyfnewid am gyfranddaliadau.

Ychwanegodd Sel: "Rydym yn awyddus i osgoi dibyniaeth ar arian cyhoeddus drwy fod mor annibynnol â phosib. Byddwn yn gydweithredol ym mhob dim a wnawn gan ddefnyddio cynnyrch a llafur lleol.

"Gobeithiwn y bydd modd creu swyddi yn y pen draw a hybu diwylliant ac economi Caernarfon yn gyffredinol.Rydym yn edrych i godi £100,000 o gyfranddaliadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stryd y Plas yn un o strydoedd siopa mwyaf poblogaidd Caernarfon.

Mae Sel Jones yn gobeithio bydd Llety Arall yn hwb i fusnesau'r dref: "Er enghraifft, ni fyddwn yn cynnig brecwast ac felly yn cyfeirio ymwelwyr at wahanol fwytai a chaffis yn y dref lle mae brecwast ar gael.

"Rydym eisoes wedi gwneud cysylltiad gyda chwmni o America, sydd â diddordeb mawr mewn trefnu teithiau i Gaernarfon a defnyddio canolfan fel Llety Arall fel cyrchfan ar gyfer eu taith.

"Mi fydd Llety Arall yn rhywbeth i'r ardal gyfan ac nid yn unig i Gaernarfon, gan fod cymaint o bethau i'w wneud a 'i weld yma."

Mae'r ymgyrch i gasglu mwy o addunedau yn parhau, ond mae trafodaethau wedi dechrau rhwng y pwyllgor ac asiantaethau eraill er mwyn gallu meddianu'r adeilad cyn gynted a sydd bosib.