Beirniadu cwmni 4x4 am ddifetha tir
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni cerbydau Land Rover wedi'u cyhuddo o 'osod eisampl gwael' drwy gynnal sesiwn ffotograffiaeth ar ben mynydd yn Eryri lle mae cynefinoedd pwysig eisoes wedi'u difrodi yn sgil cerbydau 4x4.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud nad oedd ganddyn nhw'r pŵer i atal y sesiwn dynnu lluniau ar Moel Eilio gan ei fod ar dir preifat.
Mae Land Rover yn dweud eu bod yn 'bryderus' am yr honiadau bod y tir wedi cael ei ddifetha.
Dywedodd llefarydd bod y perchnogion tir yno ar y pryd i arolygu'r sesiwn.
Yn ôl John Harold, cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, elusen sy'n ceisio gwarchod a hybu'r ardal fynyddig: "Fe ddylai Land Rover fod o blaid cefn gwlad, nid yn ei drin yn drahaus fel parc chwarae."
"Mae'n hynod o anghyfrifol, yn gosod esiampl wael, a hynny'n gyhoeddus iawn."
"Does dim llawer o amser ers i dir Moel Eilio gael ei adfer yn dilyn cyfnod o ddifrodi difrifol yn sgil cerbydau 4x4."
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae'r difrod diweddar gan y criw ffotograffiaeth ar Moel Eilio yn dangos diffyg parch difrifol i'r safle ac i'r parc cenedlaethol yn gyfangwbl.
"Nid yn unig fe wnaed difrod i'r cynefinoedd lleol a'r tirlun trawiadol, ond fe wnaeth effeithio hefyd ar fwynhâd pobl lleol ac ymwelwyr i'r ardal.
"Yn anffodus, hawl y perchennog yw caniatau y fath weithgareddau ar ei dir, ond mae'n rhwystredig iawn nad ydym ni fel awdurdod yn gallu atal gweithgarwch niweidiol fel hyn rhag digwydd."
Dywedodd yr awdurdod bod yr eiddo yn perthyn i fwy nag un perchennog tir.
Mae Moel Eilio yn un o fynyddoedd adnabyddus y Parc Cenedlaethol, yn cyrraedd 2,380 troedfedd (726m) ac yn cynnig profiad llai poblog wrth ddringo'r Wyddfa.
Dywedodd John Ratcliffe, arweinydd tîm ardaloedd gwarchodedig Cyfoeth Naturiol Cymru: "Fe ddaru ni gynghori'r cwmni bod ganddom ni bryderon am eu cynlluniau, yn arbennig am fod yr ardal eisoes wedi cael ei difrodi gan gerbydau 4x4, ond nad oedd ganddom bwerau i'w atal."
Dywedodd llefarydd ar ran Land Rover bod y sesiwn dynnu lluniau wedi cael ei gytuno gan y perchnogion tir a bod y caniatâd cywir wedi'i roi i yrru i Moel Eilio, gan ychwanegu nad oedd yr ardal benodol a ddefnyddiwyd yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
Ychwanegodd: "Roedd y perchnogion yno drwy'r adeg i arolygu'r sesiwn ac yn dweud bod y llwybr yn cael ei ddefnyddio'n barhaol er mwyn atgyweirio ardaloedd o'r Parc Cenedlaethol a bod unrhyw ymgais i adfer unrhyw ddifrod yn ddibwrpas ar y pryd oherwydd gweddill y traffig.
"Mae Land Rover wedi dweud wrth y perchnogion y byddan nhw'n fodlon cynnal gwaith atgyweirio petai angen unrhyw waith i adfer y tir i'w gyflwr gwreiddiol.
"Mae nhw wedi dweud wrthom ni nad oes angen unrhyw waith pellach. "