Pwy sydd â'r cefnogwyr gorau? Pêl-droed neu rygbi?
- Cyhoeddwyd
Wrth agosáu at ddiwedd gemau rygbi rhyngwladol yr hydref, a ninnau yng nghanol ymgyrch tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Ewro 2016, mae Cymru Fyw wedi bod yn holi dilynwyr y ddwy gamp.
Yn wyneb y ffaith fod dau wedi eu cosbi am sylwadau homoffobig i'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens, mae rhai'n gofyn a ydy naws gemau'r bêl hirgron yn dechrau newid.
Er bod ystadegau swyddogol heddluoedd yn awgrymu bod yna ostyngiad sylweddol yn nifer y troseddau sy'n gysylltiedig â chefnogwyr pêl-droed, mae rhai yn dadlau bod agwedd rhai o'r cefnogwyr mor ddrwg ag erioed. Ond ai adlewyrchiad o deyrngarwch ac angerdd ydi hyn?
Dros y blynyddoedd diwethaf mae demograffeg y cefnogwyr rygbi sy'n dod i Gaerdydd i weld gemau rhyngwladol wedi newid. Felly beth sy'n denu'r to newydd i Stadiwm y Mileniwm - y gêm, yr hwyl neu beth?
Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-Droed Cymru
"Rydw i a rheolwr Cymru Chris Coleman wedi bod yn crwydro Cymru benbaladr dros y misoedd diwethaf yn holi cefnogwyr y clybiau ac yn gwrando ar eu syniadau er mwyn datblygu'r gêm yn genedlaethol ac ar lawr gwlad gan fod sicrhau cefnogwyr o bentrefi bach y gogledd yn rhan o ddilyniant y tîm cenedlaethol yn hollbwysig i ni fel cymdeithas.
"Ymhob gêm Cymru mae 'na naws gymunedol, mae nifer fawr o'r baneri sy'n chwifio yn y caeau yn cynnwys enwau pentrefi fel Nefyn, Bodedern, Llanrug yn ogystal â'r dinasoedd mawr fel Caerdydd ac Abertawe.
"... mae'n amlwg fod y gêm ar lefel y clybiau yn denu tipyn mwy o dorf na'r gemau rhyngwladol, ond y gwrthwyneb sy'n wir am y rygbi gan fod pedair neu bum gwaith yn fwy o gefnogwyr yn gwylio gemau Caerdydd neu Abertawe o'i gymharu â'r Gweilch a'r Gleision.
"Mae rygbi yn wahanol i bêl-droed, yn fwy o ddigwyddiad cymdeithasol ac yn haws i'w ddilyn gan fod rygbi Cymru yn cystadlu ar y lefel uchaf yn y gamp yn rheolaidd. Maen nhw'n cael eu gwahodd i chwarae yng Nghwpan y Byd tra bod rhaid i ni lwyddo mewn 10 gêm ragbrofol cyn cyrraedd rowndiau terfynol Ewrop.
"Mae pobl yn dueddol o wneud penwythnos ohoni pan mae'r gemau rygbi ymlaen, ac yn dueddol o aros allan drwy'r dydd. Mae'n achlysur."
Huw Llywelyn Davies, sylwebydd gemau rygbi ers dros 30 mlynedd
"Yn gyntaf oll, mae delwedd cefnogwyr rygbi yn draddodiadol a chyffredinol yn iachach na chefnogwyr y bêl gron.
"Mewn rygbi mae'r chwaraewyr yn cael effaith fawr ar y cefnogwyr. Mae'r cyhoedd mewn tipyn mwy o gyswllt gyda chwaraewyr rygbi na chwaraewyr pêl-droed. Mae'r chwaraewyr rhyngwladol yn cael eu gweld o gwmpas y lle yn aml iawn - roedd Shane Williams yn aml yn cael ei weld yn mynd â'i gi am dro yn ardal Yr Aman.
"Hefyd mae agwedd y chwaraewyr ar y cae yn cael ei hadlewyrchu o gwmpas y stadiwm. Os nad yw'r chwaraewyr yn dangos parch at ei gilydd ac at y dyfarnwr, dyw'r cefnogwyr ddim yn mynd i ddangos parch at ei gilydd. Mi fydda i'n teimlo weithie bod cefnogwyr rygbi yn mynd yno i gefnogi eu tîm ond bod cefnogwyr pêl-droed yn mynd yno i ymosod ar y tîm arall a'u cefnogwyr.
"A dyna pam nad oes modd i ddwy set o gefnogwyr pêl-droed gymysgu a chymdeithasu, ac yn cael eu corlannu yn y stadiwm er mwyn atal ymladd."
"Cefais brofiad amhleserus mewn gêm bêl-droed rhwng Caerdydd ac Abertawe yn y gorffennol lle oedd teulu o chwech o bobl yn eistedd tu ôl i mi. Roedd y teulu o chwech yn cynnwys dyn yn ei 70au, a chrwt tua 12 oed, a'r cwbl wnaethon nhw oedd ymddwyn yn fygythiol ac yn ffiaidd drwy'r gêm, ac roedd yr iaith yr oeddynt yn ei defnyddio yn codi cywilydd arna i.
"Fe hoffwn ddweud wrth y bobl sy'n cwestiynu 'lle mae'r cefnogwyr rhyngwladol pan mae'r rhanbarthau yn chwarae?' - wel, lle mae'r 20,000 - 25,000 sy'n cefnogi Abertawe a Chaerdydd bob wythnos, pan mae Cymdeithas bêl-droed Cymru yn ffaelu gwerthu prin 10,000 o docynnau ar gyfer eu gemau rhyngwladol.
"Ond ar y llaw arall, dwi yn teimlo fod achlysur y gêm ryngwladol yng Nghaerdydd wedi mynd yn rhywbeth corfforaethol braidd ac mae'n debyg fod amryw yn mynychu'r gêm oherwydd eu bod yn teimlo ei bod yn rhywle y dylen nhw fynd."
Tommie Collins, blogiwr a chefnogwr Cymru, Chelsea a Phorthmadog
"Dim ond esgus i fynd allan i yfed alcohol yw gemau rygbi rhyngwladol i nifer fawr o bobl. Lle maen nhw i gyd pan mae'r Gweilch neu'r Scarlets yn chwarae bob dydd Sadwrn?
"Tydi'r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim byd ond trafferth, maen nhw allan am oriau cyn ag ar ôl y gemau, yn swnllyd a chadw reiat, ac ar ddiwedd y nos, maen nhw'n cwffio ac yn taflu i fyny dros bob man, mae cefnogwyr pêl-droed yn mynd i'r gêm, ei gwylio hi, ac yn mynd adre.
"Mae 'na tua 20,000 o Gymry yn mynd drosodd i Ddulyn ar gyfer y Chwe Gwlad, a'r unig beth sydd ar feddyliau'r rhan fwya ydi'r 'sesh'."
Dewi Williams, Cyfarwyddwr Cwmni Diogelwch
"Fel un sydd wedi bod yn rheoli diogelwch mewn digwyddiadau chwaraeon ers degawdau, heb os, mae'n dipyn haws rheoli'r dorf mewn gemau rygbi. Mewn sawl gêm bêl-droed lle ydw 'di bod yn gyfrifol amdani, 'dan ni wedi cael trafferth, yn enwedig pan mae'n gêm ddarbi, ac yn sgil y trafferthion, 'dan ni wedi gorfod atal nifer rhag mynychu gemau wedyn.
"Mae rygbi yn fwy o ddigwyddiad i'r teulu er bod rhai yn meddwl ei bod yn dipyn o sioe, ond mi allwn i adael i ddwy set o ffans rygbi gymysgu efo'i gilydd heb orfod poeni. 'Dwi rioed wedi gweld trafferth mewn torf rygbi."
Daniel Griffith, Myfyriwr, Caerdydd
"Mae'r ddadl p'un ai rygbi neu bêl-droed yw'r gêm genedlaethol, yn hollol blentynnaidd. Yn amlwg, mae'r ddwy gêm yn golygu lot fawr i nifer fawr o bobl yng Nghymru.
"Yn amlwg i mi, fel un sy'n mynychu'r ddwy gêm yn rheolaidd, mae 'na dipyn mwy o densiwn mewn gemau pêl-droed, ac mae'r rygbi yn fwy o achlysur a hwyl.
"Y peth am gefnogwyr rygbi sydd yn fy ngwylltio i ydi'r 'Cymry un-dydd' sy'n troi fyny ar ddiwrnod y gêm. Mae'r bobl yma yn diffinio eu Cymreictod ar lond llaw o ddyddiau'r flwyddyn - iddyn nhw, tîm rygbi, a dim ond tîm rygbi ydi Cymru."
Ymateb Heddlu De Cymru
"Mae gennym ni brofiad helaeth gyda phêl-droed, yn sgil cynnal gemau Wembley yng Nghaerdydd am chwe blynedd a'r Uwchgynghrair yn cynnwys Abertawe a Chaerdydd. Rydym yn gweithio'n agos gyda chlybiau pêl-droed a rheolwyr y stadiymau i ddatblygu trefniadau plismona ar gyfer yr holl gemau drwy gydol y tymor.
"Gyda rygbi rydym yn ymdrin yn rheolaidd â degau o filoedd o bobl yn cyrraedd prifddinas Cymru ar gyfer cyfres ryngwladol yr hydref yn ogystal â gemau rygbi'r Chwe Gwlad.
"Bob amser rydym yn gweithio i fod yn barod ar gyfer y gemau - boed rygbi neu bêl-droed - gan sicrhau fod ymwelwyr i'r digwyddiad yn cael profiad diogel a phleserus, gan adael argraff bositif."
Os ydych yn dymuno ymuno yn y ddadl ewch draw i'n cyfrif Twitter @BBCCymruFyw a rhoi sylw.