Ateb y Galw: Eilir Jones

  • Cyhoeddwyd
Mae Eilir Jones yn adnabyddus am greu'r cymeriad Ffarmwr Ffowc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eilir Jones yn adnabyddus am greu'r cymeriad Ffarmwr Ffowc

Yr wythnos yma y digrifwr Eilir Jones sydd yn ateb rhai o gwestiynau busneslyd Cymru Fyw, wedi iddo gael ei enwebu gan Arwel Gildas.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Yn dair oed ac yn cael cymryd fy llun ar stryd fawr Blaenau Ffestiniog yn gwisgo het 'Station Master'. Dw i'm yn edrych yn rhy hapus yn y llun ac mae'n amlwg mod i'n berson swil o flaen camera'r adeg honno hefyd.

Does 'na ddim golwg o'r 'Station Master'. Mae'n rhaid ei fod o'n swilFfynhonnell y llun, Stephen Dawson
Disgrifiad o’r llun,

Does 'na ddim golwg o'r 'Station Master'. Mae'n rhaid ei fod o'n swil

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Valerie Singleton! Na, sgin i ddim cof o ffansio neb pan yn ieuengach, ond o'n i YN ffansio Kylie......ond do'n i ddim yn ifanc! 'I just can't get you out of my head', 'chwadal yr hen Sheila.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Talu am rywbeth â cherdyn a'r cerdyn yn cael ei wrthod, wedyn trio egluro AR DOP FY LLAIS bod 'na arian yn y cyfrif go iawn a phawb yn y rhes tu ôl i mi yn edrych arna i mewn piti/cywilydd. Twll eu tinna'.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

BYTH BYTH BYTH yn crio ond ma' hi'n eithaf llychlyd yn y tŷ pan fyddai'n gwylio rhaglenni fel DIY SOS, neu ffilmiau am bobl yn gorchfygu eu problemau. I fod yn onest, dw i'n crio mewn diolchgarwch am yr hyn sy' gen i yn aml.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Tan yn ddiweddar - 'ysmygu'. Gobeithio wna i lwyddo i beidio ailgydio y tro yma.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Hoff ddinas? Ma hynna fel gofyn i mi, "be ydy dy hoff ffordd o hitio dy law â morthwyl?". Dw i ddim yn ffan mawr o ddinasoedd. Llanelwy 'ydy'r gora' - dim rhy fawr, dim rhy bell, dim rhy amhersonol, dim rhy boblog a dim gormod o draffig. Yn wahanol i Gaerdydd, pan dw i'n dod adref o Lanelwy, tydi fy snot ddim yn ddu. Ar y llaw arall, hoffi Venice ond gormod o ddŵr...

Venice
Disgrifiad o’r llun,

"Venice... gormod o ddŵr". Mae Eilir yn anodd i'w blesio!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mynd i barti yn nhŷ ffrind o Fecsico yn Llansannan a band Mariachi yn landio. Y band sydd yn yr hysbysebion creision enwog.

Oes gen ti datŵ?

Na, dim ar eich Neli, a dim isio un rŵan bod bron pawb efo un. Ma' 'na rywbeth ynna i sy'n gwneud i mi fod isio bod yn wahanol/ mynd yn groes i ffasiwn.

Beth yw dy hoff lyfr?

Heb os Geiriadur Bruce Griffiths h.y. dim un fo'n bersonol ond yr un wnaeth o 'creatio'. Byswn wrth fy modd efo geiriadur Prifysgol Cymru ond ma'r diawl rhy ddrud. (Neges i staff y brifysgol - ma' Dolig yn dod, winc)

(Cofiwch ddarllenwyr bod yna amryw o eiriaduron, gan gynnwys Geiriadur Prifysgol Cymru, i'w cael ar-lein)

Fydd y Mariachi yn ymweld a Llansannan y Dolig hwn
Disgrifiad o’r llun,

Fydd y Mariachi yn ymweld â Llansannan y Dolig hwn?

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Sannau lliwgar........

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Wedi anghofio'r teitl am ei fod yn ffilm uffernol o wael, ond odd fy mab 12 oed yn hoff iawn ohono. Lot o ddynion yn paffio, saethu a rasio eu gilydd mewn ceir, GORMOD o swsian.

Fe ddigwyddodd rhywbeth mor anghredadwy yn y ffilm 'nes gwneud i mi chwerthin yn uchel dros bob man. Fe drodd pawb i sbio arna i yn hurt a fe ddwedodd y mab bod o byth am fynd efo fi i'r sinema eto - BINGO!!!!!!

Dy hoff albwm?

Newid o wythnos i wythnos ond fel arfer unai John Martyn neu Tom Waits.

Cwrs cynta', prif gwrs neu bwdin?

Prif gwrs. Cyn belled bod o ddim yn rhywbeth i lysieuwyr.

Letys = Gwair!

Peidiwch â rhoi bwyd cwningen i Eilir!
Disgrifiad o’r llun,

Peidiwch â rhoi bwyd cwningen i Eilir!

Anfon tecst neu ffonio?

Ffonio rhan fwya' - er mwyn clywed llais rhywun.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Lionel Andrés "Leo" Messi Cuccittini yn chwarae yn erbyn Real Madrid ac yn osgoi tacl gan Ronaldo, Ramos a Marcelo yna'n sgorio'r gôl i ennill pencampwriaeth Ewrop 2015.... ond gora' oll tasa Mourinho yno yn rheolwr Real hefyd. Wedyn byswn yn ymddiheuro wrth Bale, wrth gwrs.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Dei Tomos

MessiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fyddai pethau yn flêr ar Real Madrid petai Eilir yn cael bod yn sgidiau Lionel Messi am y diwrnod