Caerdydd: Cynllun i godi 7,000 o dai
- Cyhoeddwyd

Byddai 30% o'r tai newydd yn dai fforddiadwy
Mae datblygwyr wedi cyflwyno cynlluniau i godi 7,000 o dai newydd yng ngogledd orllewin Caerdydd.
Byddai datblygiad Plasdŵr,ar gost o £2 biliwn, hefyd yn cynnwys siopau, swyddfeydd, ysgolion, a gwasanaethau iechyd a hamdden
Bwriad y datblygwyr yw adeiladau ar 900 acer ar dir sy'n ffinio Radur, Tyllgoed, Sain Ffagan a Danescourt.
Pe bai'r cynllun yn cael sêl bendith y cyngor fe allai gwaith ddechrau yn 2016, a'i gwblhau o fewn 20 mlynedd
Mae cyfnod o ymgynghori ar y cynllunio wedi dechrau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol