Cwyno am faw cŵn yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Wrth i ymchwil newydd ddangos nad yw 800,000 o gŵn Prydain yn cael mynd am dro yn rheolaidd, mae amryw wedi mynegi eu hanfodlonrwydd gyda'r baw cŵn sy'n cael ei adael ar balmentydd Gwynedd.
"Mae'n digwydd o hyd, bai'r perchnogion am beidio â glanhau ar ôl eu cŵn ydi o. Ond ryda ni'n talu treth Cyngor, ac felly yn disgwyl gwell gwasanaeth ganddyn nhw," meddai Gweinidog o Gaernarfon Rhys Llwyd.
Mae un cynghorydd o Wynedd eisiau gweithio mewn partneriaeth gyda thrigolion sy'n "ymfalchïo yn eu hamgylchedd lleol" i sicrhau fod perchnogion cŵn yn cymryd cyfrifoldeb ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid.
Mae 300 o finiau arbennig wedi eu gosod o amgylch Gwynedd er mwyn gwaredu baw ci.
Yn ôl Rhys Llwyd, un o'r problemau yw bod y peiriannau glanhau yn dod ar hyd y ffyrdd ac nid ar hyd y palmentydd: "dwi'n nabod un fam oedd wedi gorfod gwthio ei phram yng nghanol y ffordd ar un stryd yng Nghaernarfon, er mwyn osgoi'r holl faw ci ar y palmant."
Baw Ci a Toxocariasis
Mae cyffwrdd â baw ci yn gallu achosi'r clefyd 'toxocariasis' sy'n gallu arwain at salwch difrifol a hyd yn oed ddallineb - mae plant yn arbennig o agored i'r clefyd yma.
Mae'n drosedd i beidio â chlirio ar ôl i gi o dan eich rheolaeth faeddu mewn unrhyw le cyhoeddus.
Yng Ngwynedd, mae troseddwyr yn agored i gael cosb benodol o £75 gan Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd a Staff Parciau Morwrol. Gallai methiant i dalu'r gosb arwain at achos llys a dirwy o hyd at £1,000.
Mae Mr Llwyd o'r farn mai mwy o finiau a chynyddu'r patrolau ydi'r ateb "ar hyn o bryd mae'r dirwyon yn fygythiad gwag, mae angen gweithredu'r rheini, ac efallai cyflwyno 'spot checks' i weld os ydi perchnogion cŵn yn cario bagiau baw pan maent yn mynd a'r ci am dro, ac os ddim, rhoi dirwy iddynt."
Mwy o ofid....
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:
"Mae baw cŵn mewn ardaloedd cyhoeddus megis ar balmentydd neu mewn parciau yn achosi mwy o ofid na unrhyw fath arall o drosedd amgylcheddol, ac fel Cyngor rydym eisiau gweithio mewn partneriaeth gyda thrigolion sy'n ymfalchïo yn eu hamgylchedd lleol i sicrhau fod perchnogion cŵn yn cymryd cyfrifoldeb ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid.
"Rydw i'n ddiolchgar i'r mwyafrif llethol o berchnogion sydd yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Ond yn anffodus, nid pawb sy'n dilyn y cyngor ac yn ei fagio a'i finio.
"Mae bod yn berchen ar gi'n gallu bod yn brofiad gwerth chweil, ond ar yr un pryd mae'n golygu cyfrifoldeb a dyletswydd i'r perchennog i warchod y gymuned ehangach.
"Mae'n cymdeithas wedi ei gwneud hi'n glir iawn bod yn rhaid i'r lleiafrif anghyfrifol gydymffurfio neu wynebu'r canlyniadau - yn sicr gall y rheini sy'n cael eu dal yn troseddu wynebu dirwy."