Calan y Cymry

  • Cyhoeddwyd
Dathlu'r Hen Gaelnnig yng Nghwm GwaunFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu'r Hen Gaelnnig yng Nghwm Gwaun

Mae gan Gymru gyfoeth o draddodiadau sy'n dathlu'r Nadolig a chroesawu'r flwyddyn newydd. Faint ydych chi'n ei wybod amdanyn nhw? (Mae'r atebion ar waelod y dudalen)

1. Y dyddiau yma, mae gwasanaethau'r Plygain yn cael eu cynnal unrhywbryd yn ystod gŵyl y Nadolig, ond pryd oedd y gwasanaeth carolau yn cael ei gynnal yn draddodiadol?

a)Nos Calan

b)Cyn gwawrio fore Nadolig

c)Amser cinio ar ŵyl San Steffan

2. Beth oedd pwrpas 'coelcerth y calan' a oedd yn cael ei chodi yn nghanol trefi a phentrefi ar draws Cymru?

a)Roedd yn arwydd o ddechrau gwresog i'r flwyddyn newydd

b)Llosgi anrhegion Nadolig nad oeddech chi eisiau

c)Coginio darnau o gig ar gyfer gwledd Galan

Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Yr athletwr Dai Greene yn cofio pa Gymro adnabyddus arall yn Aberpennar?

3. Mae ras arbennig yn cael ei chynnal yn Aberpennar bob Nos Calan er cof am ba Gymro adnabyddus?

a)Dic Penderyn

b)Barti Ddu

c)Guto Nyth Brân

4. Roedd hi'n bwysig eich bod yn talu eich holl ddyledion cyn hanner nos ar droad y flwyddyn newydd neu...

a)Fe fyddech chi'n marw

b)Fe fyddai'n rhaid i chi dalu dwywaith y swm

c)Fe fyddech chi mewn dyled am weddill y flwyddyn

Disgrifiad o’r llun,

Oedd y Fari Lwyd yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Meifod?

5. Penglog pa anifail sydd yn cael ei gorchuddio â rhubanau, ei rhoi ar bolyn ac yn cael ei chario o dŷ i dŷ - sef y Fari Lwyd?

a)Dafad

b)Cath

c)Ceffyl

6. Roedd plant yn crwydro o gartref i gartref i ofyn am arian, neu Galennig, bob bore Calan. Roedd rhai hefyd yn mynd â ffrwyth wedi ei addurno â ffyn gyda nhw i gynrychioli lwc dda. Pa ffrwyth?

a)Afal

b)Gellyg

c)Banana

7. Ar fore Calan, os mai gŵr â gwallt tywyll oedd y cyntaf i groesi'ch trothwy, roedd lwc dda yn siŵr o fod ar y cartref am y flwyddyn i ddod. Roedd eich lwc hyd yn oed yn fwy os oedd yn dod â beth gydag ef?

a)Glo, bara, arian

b)Beibl, glo, cig

c)Llechen, cig, caws

8. Ond roedd rhai pobl yn anlwcus, er enghraifft...

a)Merched â gwallt golau

b)Hen ferched â ffyn

c)Dynion â gwallt coch

9. Roedd grwpiau o fechgyn yn gwneud rhywbeth diddorol â dŵr. Beth?

a)Ei daflu dros ferched ifanc y pentref

b)Ei gludo i dai'r ardal gan ei wasgaru dros ddwylo a wynebau'r teulu

c)Ei ddosbarthu ymhlith cŵn y dref

Disgrifiad o’r llun,

"Brrr! mae hi'n oer!" Mae ymdrochi yn y môr yn un o draddodiadau Dydd Calan Saundersfoot yn Sir Benfro

10. Beth oedd yn digwydd i'r dryw ar Nos Ystwyll (12 diwrnod ar ôl dydd Nadolig)?

a)Roedd yn cael ei ladd

b)Roedd yn cael ei roi mewn tŷ bychan

c)Roedd trigolion y pentref yn talu am y fraint o'i weld

Disgrifiad o’r llun,

Hwre! mae'r cwis drosodd!

Atebion:

1. b

2. a

3. c

4. c

5. c

6. a

7. a

8. c

9. b

10 - pob un!

Sut hwyl gawsoch chi?

0-2 Dych chi'n dal i ddathlu ers dydd Calan 2015!

3-5 Well i chi ddysgu mwy am draddodiadau'r Calan, dillad nofio amdani ac i mewn i'r môr 'na!!

6-8 Dych chi'n dod o Gwm Gwaun?

9 'Da chi wedi treulio gormod o amser yng nghwmni'r Fari Lwyd!

10 Gewch chi ymddeol gyda'r holl galennig 'na dych chi wedi ei gasglu!