Cymro'n Keane ar y blew

  • Cyhoeddwyd
Aled WaltersFfynhonnell y llun, Aled Walters

Roy Keane ydi capten mwyaf llwyddiannus Manchester United erioed, ond yn ddiweddar cafodd y pêl-droediwr ei guro gan fab fferm o Sir Gaerfyrddin.

Mae Aled Walters, sy'n wreiddiol o Langadog, yn Bennaeth Ffitrwydd gyda thîm rygbi Munster yn Iwerddon. Yn gynharach y mis hwn fe ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth 'Best Beard in Irish Sport', dolen allanol gafodd ei chynnal gan wefan Balls.ie.

O drwch blewyn, neu ddau, fe greodd farf y Cymro fwy o argraff ar y beirniaid nag un Keane na'r chwaraewr rygbi Gordon D'Arcy.

Y chwaraewr pêl-droed Gaeleg Cathal Cregg enillodd y brif wobr ond dyw Aled ddim yn credu fod Cathal wedi tynnu blewyn o'i drwyn trwy wneud hynny!

Cafodd Cymru Fyw sgwrs sydyn gyda Aled am y gystadleuaeth a gofyn iddo'n gynta be' wnaeth iddo dyfu barf?

Ffynhonnell y llun, Aled Walters

Fi wedi bod yn tyfu barf "on-and-off" am ryw 5 mlynedd nawr, ond ma hwn 'da fi ers o gwmpas blwyddyn. Fi'n joio tyfu barf am yr hwyl, a fi'n casau shafio! Yr ysbrydoliaeth i dyfu'r barf yw Josh Strauss, dolen allanol, wythwr Rhyfelwyr Glasgow.

Sut wyt ti'n cadw rheolaeth arno fe?

Yr un ffordd a ti'n cadw control o bopeth - bach o gariad! Fi'n golchi fe and rhoi conditioner yno fe yn rheolaidd, a rhoi gwd brwshad iddo fe fyd. Fi 'di trimo fe cwpwl o weithie nawr, ond fi wastad bach yn drist i weld y blew yn cael eu lladd!

Dwêd fwy am y gystadleuaeth 'Best Beard in Irish Sport'?

S'dim cliw da fi shwd des i fod yn y gystadleuaeth i fod yn onest! Dechreuodd y gystadleuaeth rhwng chwaraewyr o'r un maes: rygbi v rygbi, pêl-droed v pêl-droed ac yn y blaen. Fi'n credu mai hon oedd yr ail flwyddyn i'r wefan gynnal y gystadleuaeth - bach o hwyl ar wefan sy' ddim yn cymryd lot o ddifri.

Sut deimlad oedd hi i guro sawl enw cyfarwydd o fewn y byd chwaraeon i gyrraedd y ffeinal?

R'odd hi'n neis i faeddu Gordon D'Arcy gan ystyried y gystadleuaeth rhwng Munster a Leinster. Fe o'dd yr unig un o'n i am faeddu! R'odd lot o hwyl i'w gael yn y gwaith pan ddes i lan yn erbyn Roy Keane, gan ei fod e'n dod o'r ardal (Cork), er do'n i ddim yn disgwyl ennill.

Nawr bod y gystadleuaeth ar ben wyt ti am shafio'r barf neu creu rhyw ddelwedd newydd gydag ef?

So i'n siŵr. Ro'n i wedi meddwl shafo cyn Nadolig, ond bydden i yn gweld ishe'r blew, yn enwedig pan mae'n oer!

Beth ydych chi'n ei feddwl o farf Aled? Ydych chi'n adnabod yr enwogion yma sy'n hoff o'r blew?

Ffynhonnell y llun, Balls.ie
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth barf Aled fwy o argraff ar y beirniaid na rhai Roy Keane a Gordon D'Arcy