Cofio'r tswnami ar ôl 10 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae'n union 10 mlynedd ers i'r tswnami daro Cefnfor India, gan ladd dros 220,000 o bobl. Roedd y Gymraes Alison Bridges, yn wreiddiol o Landegfan, Sir Fôn, yn Unawatuna, Sri Lanka, ar y pryd. Mae hi wedi rhannu ei hatgofion a'i hargraffiadau o'r sefyllfa yno erbyn hyn gyda Cymru Fyw.
'Fel rhywbeth allan o ffilm'
Roeddwn i a fy ngŵr, Geth, yn aros ar ail lawr gwesty'r Primrose yn Unawatuna, tua 50 metr o'r traeth. Roeddem yn cysgu ar y pryd ac mi ddeffrois i glywed sŵn dŵr yn tasgu'n ffyrnig.
Fe godais o'r gwely i agor drws y balconi - doeddwn i ddim yn gallu credu'r hyn a welais! Gwaeddais ar fy mhartner a phan welodd o'r olygfa, roedd ei wyneb yn wyn fel y galchen.
Roedd y môr yn dod i mewn mor gyflym, roedd fel rhywbeth allan o ffilm. Roedd lefel y dŵr eisoes wedi cyrraedd llawr cyntaf y gwesty ac roedd y llif mor gryf nes ei fod yn chwalu popeth yn ei lwybr.
Cyn i'r don daro, roedd caffis bach ar y traeth, ond roeddynt i gyd wedi cael eu golchi i ffwrdd gan y don. Roedd y dŵr yn llifo fel petai byth yn mynd i ddarfod. Roedd tŷ fy ffrind dros y ffordd i'n gwesty ac roedd hi ar ei tho yn sgrechian enw ei chwaer, yn dweud iddi fod ar y stryd pan darodd y don.
Roedd pobl oedd yn aros ar lawr gwaelod y gwesty wedi dod i fyny at ein llawr ni am fod y dŵr yn dod i mewn i'w hystafelloedd - rhai yn crio, eraill mewn sioc fel fi.
Cymerodd y dŵr oddeutu 20 munud i ddechrau gwagio'n araf o'r adeilad. Pan oedd y dŵr uchder brest, gwelodd fy ngŵr ei ffrind ac aethon nhw i chwilio am deulu fy ngŵr gan eu bod yn byw ar y traeth.
Perygl ym mhobman
Daeth pobl eraill i'n gwesty a dweud y byddai'n well i ni adael am fod perygl i'r adeilad ddymchwel. Yna gwelais ddynes oedd wedi bod yn aros yn yr ystafell un drws i lawr ohonom ni - roedd hi wedi ei lladd gan wal yn disgyn arni. Cerddon ni i lawr y stryd ac i fyny mynydd agos. Yn ffodus i ni, mae Unawatuna wedi'i amgylchynu gan fynydd.
Yr oll oedd gen i gyda mi oedd bag bach gyda fy mhres a'n ffôn ynddo. Ffoniais fy nhad yng Nghymru - roedd hi'n bedwar o gloch y bore iddo fo.
Yna daeth dyn ataf yn gofyn a allai ddefnyddio fy ffôn i roi diweddariadau i'r BBC. Roland Buerk oedd o. Rhoddais fy ffôn iddo ac roedd yn gallu rhoi diweddariadau byw am y sefyllfa.
Wedyn es i chwilio am fy ngŵr - a chefais hyd iddo bum awr yn ddiweddarach ar y mynydd.
Roedd yn amser anodd iawn. Er bod cymaint o bobl wedi'u hanafu'n ddrwg, doedd dim y gallwn ni wneud iddyn nhw. Roedd hi'n sefyllfa anobeithiol.
Ail don
Yna tarodd yr ail don. Bu farw llawer o bobol wrth iddynt fynd yn ôl i'w tai i gasglu eu heiddo. Gyrrais negeseuon i deuluoedd fy ffrindiau i adael iddynt wybod eu bod yn saff. Arhosais ar y mynydd trwy'r dydd a daeth rhai pobl oedd yn byw ar y mynydd a bwyd a dŵr ffynnon i ni.
Erbyn pump neu chwech o'r gloch, dechreuon ni feddwl ble y gallwn ni gysgu am y noson. Cynigodd ffrind i 10 ohonom ni i aros yn ei dŷ ef. Roedd rhaid cerdded trwy'r pentref i gyrraedd y tŷ, a dyma'r amser mwyaf brawychus i mi gan ein bod ofn i don arall daro. Fe redon ni'r holl ffordd. Cysgon ni ar lawr gyda'r drws yn llydan agored, yn barod i redeg i fyny'r mynydd pe bai ton arall.
Wedi pump neu chwe diwrnod roedd y lonydd yn ddigon clir i ni adael Unawatuna i fynd i Colombo. Roeddwn wedi gallu cael gafael ar fy nghyflogwyr, oedd wedi prynu ticed awyren i mi adael ar Nos Calan.
Pan gyrhaeddais yn ôl i Colombo aethon ni i siopa i brynu pethau hanfodol ar gyfer ein ffrindiau yn Unawatuna. Powdwr llefrith ar gyfer y plant, dillad a bwyd. Talon ni filiau ffôn pobl hefyd iddyn nhw gadw mewn cysylltiad gyda'i gilydd.
Prynais feic modur ar gyfer fy ngŵr fel y gallai fynd i nôl bwyd i'w deulu gan fod siopau'r pentref i gyd wedi'u dinistrio.
Cymorth dyngarol
Rhoddais fy holl ddillad i bobl oedd wedi colli popeth. Fe wnes i rentu tŷ am bum mis ar gyfer teulu fy ngŵr nes iddynt gael llety dros dro gan asiantaeth gymorth. Bu rhaid iddynt fyw mewn tŷ pren am bedair blynedd.
Daeth llawer o asiantaethau cymorth i Sri Lanka i helpu pobl ailadeiladu eu bywydau. Roedd yn dda iawn gweld cymaint yn dod i helpu, ond roedd y modd roedd pethau'n cael eu rhannu ychydig yn anwadal.
Casglais arian yn syth wedi i mi gyrraedd yn ôl i'r DU. Roedd gen i £15,000 ac ynghyd â dau ffrind oedd yn casglu hefyd, casglon ni gyfanswm o oddeutu £30,000.
Dwi'n dal yn ceisio mynd yn ôl yno'n weddol aml, a dwi'n falch iawn o weld fod pethau wedi gwella'n arw a phobl wedi llwyddo i ailadeiladu eu bywydau ar ôl profiad mor ddychrynllyd.