Ffosil prin wedi ei ddarganfod ar draeth ym Mhenarth

  • Cyhoeddwyd
FfosilFfynhonnell y llun, Jonathan Bow

Mae heliwr ffosilau wedi darganfod sgerbwd hynafol ar draeth yn Ne Cymru.

Daeth Jonathan Bow, 34, o hyd i'r ffosil saith troedfedd o hyd wrth iddo gerdded ar hyd y traeth yn ardal Penarth.

Mae Amgueddfa Cymru wedi disgrifio sgerbwd yr ichthyosaur - math o ymlusgiad oedd yn byw yn y môr - fel un pwysig am fod y sgerbwd i'w weld yn gyfan.

Mae ffosilau arall o'r cyfnod Jwrasig wedi cael eu darganfod yn yr ardal, yn dyddio yn ôl 200 miliwn o flynyddoedd.

'Eithriadol o brin'

Y gred yw bod yr ichthyosaur olaf wedi marw tua 25 miliwn o flynyddoedd cyn i'r deinosoriaid i gyd gael eu lladd.

Dywedodd Mr Bow y buasai unrhyw un wedi gallu darganfod y ffosil, ac mai darn o graig modfedd o hyd wnaeth ddal ei sylw ym mis Medi.

"Mae rhywbeth mor fawr a chyfan a hyn yn ddarganfyddiad eithriadol o brin," meddai Mr Bow, rhaglennwr cyfrifiadurol o Abertawe.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Bow
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Cymru wedi dweud bod y darganfyddiad yn un pwysig iawn

Cymerodd ddiwrnod llawn i Mr Bow a'i frawd i dynnu'r ffosil, sy'n pwyso tua 60 kilogram, o'r ddaear.

Roedd rhaid cael gwared â'r garreg o amgylch y ffosil i allu gweld ei wir werth, ac yna rhoddodd wybod i'r amgueddfa.

'Darganfyddiad hynod o bwysig'

Mae Mr Bow hefyd wedi darganfod rhan o ên plesiosaur ers iddo gymryd diddordeb yn y maes nifer o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd Cindy Howells, rheolwr Adran Daeareg Amgueddfa Cymru, bod y ffosil yn "ddarganfyddiad a allai fod yn hynod o bwysig" am iddo fod yn gyflawn.

Dywedodd Ms Howells fod penglogau tebyg wedi cael eu darganfod yng Nghymru yn y gorffennol ond mai dyma'r un cyflawn cyntaf, er bod gweddillion eraill cyflawn wedi cael eu darganfod mewn mannau eraill.