Ateb y Galw: Dewi Pws

  • Cyhoeddwyd
Dewi Pws

Yr wythnos yma Dewi 'Pws' Morris sydd yn ateb cwestiynau Cymru Fyw wedi iddo gael ei enwebu gan ei gyfaill, yr actor Dafydd Hywel.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Teimlo'r haul ar gefn fy nghoesau wrth aros am y bws ar fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Angela Bowen yn Ysgol Lôn Las, ac yna Sissy Spacek yn hwyrach mlaen.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dal byg tra'n ffilmio Byd Pws yn yr Ynys Las (Greenland). Roeddwn yn aros mewn caban teulu Inuit, ac fe gefais ddamwain yn y gwely oherwydd y byg! I wneud pethau yn waeth fe rewodd pethau unwaith i mi drio golchi'r dillad gwely tu allan.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth glywed am farwolaeth fy ffrind, Sbardun - ond rwyf yn benderfynol o'i gofio gyda gwên yn lle dagrau.

Disgrifiad o’r llun,

Y Tebot Piws - Dewi a'i fraich ar ysgwydd ei ddiweddar gyfaill Alun 'Sbardun'

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Colli pethau. Ddim yn gwrando. Yfed gormod. Bod yn ddiamynedd gyda Saeson...wps, ymwelwyr. (Rhiannon y wraig sy'n dweud rhain!)

Dy hoff ddinas yn y byd?

Lhasa yn Tibet. Lle mor wahanol, ac mae gennai drueni mawr dros y Tibetiaid dan ormes.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Parti priodas fi a be' chi'n galw...

Oes gen ti datŵ?

Nagoes. Ond fe welais i un ar ysgwydd hogan yn yr Eisteddfod, yn dweud 'cenedl heb iaith, cenedl heb galon'. Os byswn i'n cael un rhyw ddydd, honna fydde hi.

Beth yw dy hoff lyfr?

Yn y Gymraeg 'Hyfryd Iawn', llyfr cyntaf Eirwyn Pontsian. Ac yn Saesneg llyfrau Lord of the Rings gan JRR Tolkien

Disgrifiad o’r llun,

Anaml iawn y gwelwn ni Dewi heb ei het. Dyma oedd y ffasiwn yn 'Grand Slam' yn 1978

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

'The Hobbit: The Battle of the Five Armies' - addasiad o waith Tolkien, un o fy hoff awduron.

Dy hoff albwm?

CD o Gerallt Lloyd Owen yn darllen ei gerddi, yn enwedig 'Trafferth mewn siop'. Yn Saesneg byswn i'n dweud The Best of Dusty Springfield - dwi wrth fy modd efo hi.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy het.

Cwrs cyntaf, prif gwrs 'ta pwdin?

Onion bhaji i ddechrau, Chicken Pathia fel prif gwrs, ac onion bhaji yn bwdin.

Ffynhonnell y llun, Mumtazjee
Disgrifiad o’r llun,

Peidiwch â distyrbio Dewi pan fydd o'n claddu ei bhajis!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio!!!!! Casáu textio!

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Bryn Fôn, er mwyn gweld faint o arian sy' ganddo fe yn y banc.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

John Ogwen

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Pwy yw'r cyfoethocaf? Bryn Fôn 'ta'r seren ryngwladol Ricky Hoyw?