A470: Taith faith a throellog o'r gogledd i'r de
- Cyhoeddwyd
Bore braf oedd hi ar draeth Llandudno cyn i mi gychwyn ar fy nhaith. Er yr oeddwn i'n teimlo bach yn amheus am y siwrne hir a blinedig, roeddwn i hefyd yn disgwyl ymlaen at gwrdd â rhai o'r bobl a busnesau sy'n dibynnu ar yr A470.
Fe gymerodd hi ryw chwarter awr i adael Llandudno oherwydd prysurdeb y ffyrdd o amgylch y dre ond wedi hynny roedd y daith i Lanrwst ac wedyn ymlaen i Flaenau Ffestiniog yn un braf. Wedi rhyw awr yn y car fe gyrhaeddais i Ffestiniog a dyna ble gwrddais ag Iwan Roberts - un o berchnogion y cwmni lorïau Roberts.
Barn Iwan Roberts am ffordd yr A470:
"Mae'r ffordd wedi gwella yn ardal Dolgellau o ran nifer y damweiniau ond does 'na ddim modd pasio lorïau a phethau eraill - does 'na ddim digon o ffordd ddeuol i fod yn onest.
"Mae angen mwy o lefydd i basio - mwy o ffyrdd deuol wrth yrru i fyny'r rhiw. Mae'n rhaid cael traffig i symud tipyn bach yn daclusach nag y mae ar hyn o bryd. Er enghraifft o Langurig i lawr i Rhaeadr dyw hi ddim yn bosib pasio.
"Mae pobl yn syllu yn hyll arna ti pan wyt ti yn y lori ond mae'n ddrwg gen i - sdim byd fedrai wneud amdano fo, 40 mya rydan ni'n cael gwneud chi'n gweld."
Wedi i fi adael Ffestiniog ces i fy synnu gan ba mor dawel oedd y ffordd. Efallai roeddwn i wedi dewis diwrnod da i yrru ar yr A470. Roedd rhan fwyaf o'r daith rhwng Ffestiniog a Thrawsfynydd ac i lawr i Ddolgellau yn hawdd gyda'r ffordd yn eithaf syth ac esmwyth. Wrth gwrs roedd yn rhaid i fi arafu tipyn erbyn ardal Dinas Mawddwy gan fod y ffordd yn gul.
Erbyn i fi gyrraedd Llanbrynmair roedd yn hen bryd i fi gael rhywbeth i fwyta felly fe arhosais am ginio yng nghanolfan Machinations neu Gaffi'r Ddraig sydd reit ar ochr y ffordd. Cyn bwyta fe ges i sgwrs a pherchennog y busnes, Sarah Rees.
Barn Sarah Rees - Perchennog Machinations yn Llanbrynmair:
"Yn ystod y gaeaf mae pethau'n tawelu ond mis Awst nesaf mae gynnon ni daith tractorau yn dod o Gaerdydd fyny i ogledd Cymru a rhyw rali genedlaethol ar gyfer casglu arian at rywbeth. Rydyn ni hefyd yn cael ambell i angladd, rydyn ni wedi cael un briodas eleni, rydyn ni'n gwneud cinio dydd Sul i bobl mewn oed a phartïon pen-blwydd. Rydyn ni'n lwcus iawn achos mae'r safle'n hyblyg.
"Mae mantais fawr bod ar ochr y ffordd fan hyn a gobeithio erbyn iddyn nhw gyrraedd Llanbrynmair maen nhw'n barod i gael rhywbeth i fwyta, mynd i'r tŷ-bach neu i gael hoe."
Roedd y siwrnai o Lanbrynmair i Lanfair-ym-Muallt yn gymysgedd o fannau syth a chloi a rhannau araf a throellog. Ganol y prynhawn roedd yr haul yn broblem gan ei fod mor isel yn yr awyr a'r ffordd yn dal i fod yn wlyb, roedd yn anodd iawn i weld ar adegau.
Mae'r ffordd newydd cyn cyrraedd Llanelwedd yn wych gyda'r traffig yn llifo'n hawdd. Nesaf i gael sgwrs gyda fi oedd Arwyn Morgan sy'n ffermwr ond sydd hefyd yn berchen ar siop gig yn Llanfair-ym-Muallt.
Arwyn Morgan - cigydd a ffermwr yn Llanfair-ym-Muallt:
"Gallai'r ffordd gael ei wneud lot yn well nag y mai ar hyn o bryd. Mewn rhai llefydd gallen nhw wneud ffordd ddeuol ond bysai'n gwneud gwahaniaeth os oedden nhw'n lledu'r ffordd mewn mannau.
"Mae heol eitha' gwael o fan hyn yn Llanfair i lawr i Lyswen - mae llawer wedi cael eu lladd ar yr heol 'na i ddweud y gwir. I bobl sydd ddim yn adnabod yr heol yn dda mae 'na gorneli cas iawn.
"Maen nhw'n gwella rhai llefydd ond mae fel petai nhw'n gadael y llefydd sydd eisiau cael eu gwneud."
Wedi i fi gyrraedd y Bannau Brycheiniog fe ddechreuodd hi dywyllu ond o leiaf roeddwn i'n gwybod o Ferthyr Tudful i Gaerdydd byddai ffordd ddeuol o fy mlaen i. Haleliwia!