Tref wledig yn colli ei banc olaf

  • Cyhoeddwyd
Banc
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cangen y NatWest yn cau ei drysau am y tro olaf ar 9 Ionawr.

Ymhen ychydig ddyddiau fe fydd banc olaf cymuned wledig arall yn cau.

Mae cwmni NatWest wedi dweud nad oes digon o ddefnydd o'u cangen yn Nhrefaldwyn ym Mhowys, sydd ar agor un diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd.

Ond yn ôl pobl leol mae cau'r banc yn ergyd fawr i'r dref oherwydd bod y banciau agosaf wyth milltir i ffwrdd yn Y Trallwng.

Mae Trefaldwyn yn hen dref farchnad sydd bron i 800 oed, ond yr hyn fydd ddim yna am lawer hirach yw'r banc.

Fe fydd cangen y NatWest yn cau ei drysau am y tro olaf ar 9 Ionawr.

'Penderfyniad anodd'

Ers misoedd dim ond am bedair awr ar ddydd Iau mae'r banc wedi bod ar agor. Ar ôl cau'n gyfan gwbwl fe fydd rhai o'r gwasanaethau ar gael yn swyddfa post y dref.

Mae Emyr Griffiths yn gwsmer i NatWest ers degawdau. Ar hyn o bryd mae'n medru cerdded i'r banc, ond mae'n mynd i golli'r gwasanaeth personol yn y gangen leol.

"Dwi'n meddwl y dylai Llywodraeth Cymru ddweud dewch rŵan bois. Stop, gormod. Achos dim ond un peth sydd yn eu meddwl nhw, sef gwneud arian.

"Dwi'n dal yn byw yn oes yr arth a'r blaidd. Dwi ddim eisiau mynd ar y we neu siarad gyda rhyw gysylltiad yn Solihull neu Birmingham."

Yn ôl llefarydd ar ran NatWest, roedd yn benderfyniad anodd i gau'r gangen ond mae'n ganlyniad i ostyngiad sylweddol yn y defnydd ohoni.

Trwy holl ganghennau NatWest mae'r defnydd wedi gostwng 30% wrth i bobl fancio yn amlach ar y we.

Er hyn, yn ôl NatWest mae 80% o'u cwsmeriaid yn byw o fewn 3 milltir i gangen. Bydd staff Trefaldwyn yn parhau i weithio yng nghangen y Drenewydd ar ôl i'r banc gau.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y banc agosaf 8 milltir i ffwrdd yn Y Trallwng.

Mae Cerys Thomas, cyn-faer Trefaldwyn, yn dweud bod angen i'r banciau mawr ail-ystyried eu cyfrifoldeb i gymunedau bach.

"Roedd pobl yn gallu gweld hwn yn dod ond mae o dal yn ergyd. Bydd yn rhaid teithio wyth neu ddeg milltir i'r Trallwng neu'r Drenewydd a dyw trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn dda.

"Mae'n mynd i gael effaith ar bobl, yn arbennig y bobl hŷn."

Yn ôl grŵp sy'n ymgyrchu i ddiogelu bancio cymunedol mae 1,200 o drefi trwy Brydain wedi gweld eu banc olaf yn cau.

Ac mae'n dueddiad fydd yn parhau wrth i gannoedd yn rhagor gael yr un profiad â Threfaldwyn dros y blynyddoedd nesaf.