Twyll: Atal rhag gweithio fel deintydd yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Jochemus VenterFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jochemus Venter ei garcharu am 18 mis wedi iddo ddwyn bron i £50,000 oddi wrth y GIG.

Mae deintydd gafodd ei garcharu am 18 mis wedi iddo ddwyn bron i £50,000 oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG), wedi cael ei atal rhag gweithio.

Fe wnaeth Jochemus Venter, 211 o geisiadau twyllodrus wrth ddelio gyda dros 100 o gleifion dros bedwar blynedd yn ei ddeintyddfa yn Llanwrtyd, Powys, cyn iddo gael ei ddal gan ymchwilwyr GIG.

Cafodd ei garcharu wedi iddo gyfaddef wyth cyhuddiad o gadw cyfrifon ffug yn Llys y Goron Caerdydd, ym mis Rhagfyr.

Dywedodd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ei fod ei enw wedi'i "ddileu" oddi ar eu cofrestr.

Clywodd yr achos llys gwreiddiol bod gan Venter gytundeb â Bwrdd Iechyd Lleol Powys i drin pobl yn unol â chyfraddau'r GIG.

'Niweidiol'

Ond rhwng Ebrill 2006 a Gorffennaf 2010 fe wnaeth geisiadau ffug gwerth £47,947.43.

Roedd y rhain yn cynnwys codi tâl am wneud 300 coron i ddannedd, a'r oll yr oedd wedi ei wneud mewn gwirionedd oedd llenwi tyllau ynddyn nhw.

Yn ogystal roedd wedi codi tâl o £1200 am waith orthodonteg ffug ac fe wnaeth nifer o geisiadau am apwyntiadau oedd ddim yn bodoli.

Cafodd ymchwiliad ei gychwyn i ymddygiad Venter wedi i nyrs ddeintyddol a derbynnydd yn ei ddeintyddfa godi pryderon.

Wrth atal Venter rhag gweithio fel deintydd yn y dyfodol, dywedodd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol bod ei anonestrwydd dros nifer o flynyddoedd yn tanseilio rhai o brif egwyddorion y proffesiwn.

Ychwanegodd panel y cyngor bod ymddygiad Venter yn "niweidiol i'w addasrwydd i weithio fel deintydd ynghyd ag i hyder y cyhoedd mewn gweithwyr deintyddol."

Mae'r £47,900 bellach wedi cael ei adfer o dan gyfraith enillion trosedd.