Merched dylanwadol y byd pop

  • Cyhoeddwyd
Casi Wyn

Mae'r gantores Casi Wyn ymhlith ein hartistiad mwyaf poblogaidd ac mae hi wedi camu i'r gorffennol i ddysgu rhagor am ddylanwad merched eraill dros y degawdau ar y sîn roc a phop Cymraeg.

Bydd Casi yn cyflwyno cyfres newydd, Merched Mewn Pop ar C2 BBC Radio Cymru. Mi fuodd hi'n sôn mwy am eu cyfraniad ar raglen Lisa Gwilym:

Beth fyddi di'n ei drafod yn y gyfres?

Mi fydd 'na chwe rhaglen a mi fyddan ni'n mynd drwy'r degawdau. Yn y rhaglen gynta' mi fydda i'n siarad efo grwpiau Y Diliau a'r Pelydrau, grwpiau nad oeddwn i'n gyfarwydd â nhw o gwbl a finnau'n 22.

Wrth bori drwy'r archifau 'dach chi'n dod o hyd i berlau o ganeuon Cymraeg gwych, safonol a gwreiddiol ac ella ein bo' ni'n anghofio am y merched sydd wedi cyfrannu gymaint.

Mae Tammy Jones yn un arall, yn wreiddiol o Dalybont ger Bangor, ond aeth i rif pump yn y siartiau Prydeinig efo cover o un o ganeuon Frank Sinatra 'Let Me Try Again'.

Tammy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth Tammy Jones argraff y tu hwnt i'r sîn roc a phop Cymraeg

Mi fydda i hefyd yn nes 'mlaen yn y gyfres yn siarad efo artistiaid fel Heather Jones a Caryl Parry Jones oedd yn amlwg iawn yn y degawdau canlynol. Dwi'n holi artistiaid cyfoes hefyd fel Gwenno, Lisa Jên, Kizzy Crawford a Georgia Ruth.

Yn ogystal ag astudio datblygiad y gerddoriaeth ar hyd y blynyddoedd mae'n gyfle i werthfawrogi be' mae merched wedi ei gyfrannu i ddiwylliant Cymru.

Dwi'n deall dy fod di wedi cael sioc ar ôl clywed sut oedd rhai o'r merched yma'n cael eu trin?

Do. Mae Heather Jones, er enghraifft, yn dweud pan drodd hi i ganu mwy o ganeuon roc bod 'na ddynion yn dod ati a dweud am ei dillad "di hwnna ddim cweit yn dy siwtio di, be' am wisgo'r ffrogiau Laura Ashley 'na roeddet ti'n arfer eu gwisgo?".

Mae pethau wedi gwella'n aruthrol erbyn heddiw. Ma 'na dipyn mwy o gydraddoldeb yn enwedig yn y diwydiant cerddoriaeth. Mi oedd hi'n anodd iawn i ferched yn ystod y cyfnod cynnar yma dwi'n ei drafod yn y gyfres.

Heather Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heather Jones yn dal i ganu er gwaetha' agwedd rhai dynion tuag ati hi yn y 70au

Fel cantores dy hun, pa mor ddiolchgar wyt ti o gyfraniad y merched yma?

O'n i'n siarad efo Meinir Ffransis oedd yn aelod o grwpiau Y Nhw ac Y Chwyldro. Na'th hi gymaint dros ymgyrchoedd iaith ar ffurf cerddoriaeth gyfoes. O'n i'n diolch nid yn unig am ei cherddoriaeth hi ond am beth mae hi wedi ei wneud dros ddiwylliant cyfoes yng Nghymru. Mae o'n gic yn y pen ôl i ni 'chydig bach i greu 'chydig mwy ac i gyfrannu mwy a sicrhau bod y llinach yn parhau.

Pa mor iach ydi'r sîn erbyn hyn o ran cyfleoedd sydd ar gael i ferched?

Mae hi'n iach iawn, iawn o ystyried nad oes 'na unrhyw fath o bres i'w wneud. Mae pawb yn ei 'neud o am y rhesymau cywir, achos eu bod nhw eisiau creu cerddoriaeth dda.

Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i Lundain agor ei ddrysau ac i sylwi be' sy'n digwydd o'n cwmpas ni. Mae 'na gerddoriaeth dda yn cael ei gwneud y tu hwnt i Hackney a llefydd tebyg. Mae 'na gerddoriaeth ofnadwy o ddifyr yn cael ei chreu yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru. Amdani!

Casi Wyn: Merched Mewn Pop, C2 BBC Radio Cymru, Nos Iau Ionawr 8, 21:00

Kizzy Crawford
Disgrifiad o’r llun,

Mae dylanwad merched ar y sîn roc Gymraeg yn ddiogel yn nwylo artistiaid ifanc fel Kizzy Crawford